YouVersion Logo
Search Icon

Nehemeia 1

1
1Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan, 2Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a gwŷr o Jwda; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem. 3A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â thân.
4A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd; 5A dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion: 6Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cyffesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom. 7Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was. 8Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd: 9Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt; pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo. 10A hwy ydynt dy weision a’th bobl, y rhai a waredaist â’th fawr allu, ac â’th law nerthol. 11Atolwg, Arglwydd, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i’r brenin.

Currently Selected:

Nehemeia 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy