YouVersion Logo
Search Icon

Nahum 1

1
1Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad. 2Duw sydd eiddigus, a’r Arglwydd sydd yn dial; yr Arglwydd sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr Arglwydd ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i’w elynion. 3Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr Arglwydd sydd a’i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a’r cymylau yw llwch ei draed ef. 4Efe a gerydda y môr, ac a’i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Charmel, a llesgaodd blodeuyn Libanus. 5Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a’r bryniau a doddant, a’r ddaear a lysg gan ei olwg, a’r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo. 6Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a’r creigiau a fwrir i lawr ganddo. 7Daionus yw yr Arglwydd, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo. 8A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef. 9Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith. 10Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo. 11Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd: cynghorwr drygionus. 12Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni’th flinaf mwyach. 13Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau. 14Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o’th blegid, na heuer o’th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a’r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt. 15Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.

Currently Selected:

Nahum 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy