YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 1

1
1Ac wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt? 2A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef. 3A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef. 4A Jwda a aeth i fyny; a’r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr. 5A hwy a gawsant Adoni-besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid. 6Ond Adoni-besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed. 7Ac Adoni-besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno. 8A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a’i henillasant hi, ac a’i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.
9Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd. 10A Jwda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai. 11Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-seffer:) 12A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath-seffer, ac a’i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo. 13Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo. 14A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di? 15A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.
16A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl. 17A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma. 18Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau. 19A’r Arglwydd oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt. 20Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac. 21Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.
22A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a’r Arglwydd oedd gyda hwynt. 23A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus.) 24A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi. 25A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu. 26A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.
27Ond ni oresgynnodd Manasse Beth-sean na’i threfydd, na Thaanach na’i threfydd, na thrigolion Dor na’i threfydd, na thrigolion Ibleam na’i threfydd, na thrigolion Megido na’i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno. 28Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.
29Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.
30A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.
31Ac Aser ni yrrodd ymaith drigolion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achsib, na Helba, nac Affic, na Rehob: 32Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.
33A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth-semes, na thrigolion Beth-anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth-semes a Beth-anath oedd dan dreth iddynt.
34A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn. 35A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd, a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt. 36A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim, o’r graig, ac uchod.

Currently Selected:

Barnwyr 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy