YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 1

1
1Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda. 2Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau, ddaear: canys yr Arglwydd a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn. 3Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall. 4O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr Arglwydd, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!
5I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg. 6O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gwelïau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew. 7Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef. 8Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig. 9Oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
10Gwrandewch air yr Arglwydd, tywysogion Sodom; clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra. 11Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr Arglwydd: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt. 12Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau? 13Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer: arogl-darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod. 14Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn. 15A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.
16Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg; 17Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw. 18Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân. 19Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch. 20Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, â chleddyf y’ch ysir: canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd.
21Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid. 22Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr: 23Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion â lladron; pob un yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt. 24Am hynny medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, cadarn Dduw Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.
25A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam. 26Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawnder, yn Dref ffyddlon. 27Seion a waredir â barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.
28A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r Arglwydd, a ddifethir. 29Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch. 30Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi. 31A’r cadarn fydd fel carth, a’i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a’u diffoddo.

Currently Selected:

Eseia 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy