YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 39

39
1Ac o’r sidan glas, a’r porffor, a’r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses. 2Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd. 3A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a’i torasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porffor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y lliain main, yn waith cywraint. 4Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi. 5A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o’r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses.
6A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt. 7A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
8Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd. 9Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg. 10A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf. 11A’r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant. 12A’r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst. 13A’r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd. 14A’r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth. 15A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur. 16A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg. 17A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau’r ddwyfronneg. 18A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o’r tu blaen. 19Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o’r tu mewn. 20A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod. 21Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
22Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith. 23A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo. 24A gwnaethant ar odre’r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd. 25Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre’r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau, 26Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
27A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i’w feibion. 28A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd, 29A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD. 31A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i’w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
32Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.
33Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a’i cholofnau, a’i morteisiau, 34A’r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r to o grwyn daearfoch, a’r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio; 35Arch y dystiolaeth, a’i throsolion, a’r drugareddfa; 36Y bwrdd hefyd, a’i holl lestri, a’r bara dangos; 37Y canhwyllbren pur, a’i lampau, a’r lampau i’w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i’r goleuni; 38A’r allor aur, ac olew yr eneiniad, a’r arogl-darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell; 39Yr allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a’i holl lestri; y noe a’i throed; 40Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; 41Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu. 42Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith. 43A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a’u bendithiodd hwynt.

Currently Selected:

Exodus 39: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy