Daniel 5:25-28
Daniel 5:25-28 BWM
A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN. Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd. TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin. PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid.





