YouVersion Logo
Search Icon

Amos 2

2
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch. 2Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. 3A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr Arglwydd.
4Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. 5Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.
6Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau: 7Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd. 8Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.
9Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd. 10Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. 11A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr Arglwydd 12Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed; ac a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch. 13Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau. 14A metha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun: 15Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun. 16A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd.

Currently Selected:

Amos 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy