YouVersion Logo
Search Icon

1 Pedr 1

1
1Pedr, apostol Iesu Grist, at y dieithriaid sydd ar wasgar ar hyd Pontus, Galatia, Capadocia, Asia, a Bithynia, 2Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer. 3Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, 4I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi. 5Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. 6Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: 7Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist: 8Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: 9Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. 10Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi: 11Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ôl hynny. 12I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych. 13Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; 14Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: 15Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. 16Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. 17Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad: 18Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau; 19Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd: 20Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi, 21Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw. 22Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth: 23Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. 24Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrthiodd: 25Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi.

Currently Selected:

1 Pedr 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy