Eshaiah 27
27
XXVII.
1Yn y dydd hwnnw y gofwya Iehofah â’i gleddyf,
(Â’i) galed, mawr, a chadarn (gleddyf,)
# 27:1 arwyddocêir gelynion Duw. Leviathan, y sarph ffoedig,
A Leviathan, y sarph dorchog,
Ac y lladd y ddraig yr hon (sydd) yn y môr.
2Yn y dydd hwnnw,
Y winllan ddymunawl; cenwch gân ymattebol iddi.
3(Iehofah).
Myfi, Iehofah a’i ceidw,
Ar (bob) amrant y dyfrhâf hi;
Ymwelaf â hi y nos,
A’r dydd Mi a’i cadwaf.
4 # 27:4 Yr Iwddewon yn dueddol i ymgynnal ar gynnorthwy-wŷr daearol. (Y Winllan).
Mur nid (oes) gennyf;
O na roddasid i mi (fur) o fieri a drain.
(I).
Mewn rhyfel y cerddwn yn eu herbyn,
Llosgwn hwynt ynghŷd;
Yn hytrach ymafled hi yn Fy nghadernid i.
5(Y W).
Gwnaed Ef heddwch â mi;
Heddwch a wnaed Efe â mi.
6(I).
Y sawl a ddeuant o wreiddyn Iacob a flodeuant, ac e flaen-dardda Israel,
A hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.
7 # 27:7 “Ei dar:” h. y. gorthrymmwŷr Israel. Ai yn ol tarawiad ei darawydd y tarawodd Efe?
# 27:7 “Ei ef” = Israel. Ai yn ol lladdfa ei laddedigion y lladdwyd ef?
8Wrth fesur-fesur, yn ei danfon hi allan, yr ymddadleui â hi,
Gan ystyried yn Ei wŷnt garw, yn nydd y dwyreinwŷnt.
9Am hynny ar (yr ammod) hwn y cymmodir am anwiredd Iacob;
A hyn (yw) ’r holl ffrwyth; (sef) pan roddo efe ymaith ei bechod,
Pan wnelo efe holl gerrig yr allor
Fel cerrig calch gwasgaredig,
Ac na safo llwyni ac haul-ddelwau.
10Etto y ddinas gaerog a fydd unig,
Yn annedd wrthodedig a gadawedig megis anialwch;
Yno y pawr yr eidion, ac yno y gorwedd,
Ac y difa ei blagur hi.
11 # 27:11 y winllan ddymunawl a ddifethir. Pan wywo ei changennau hi, hwy a dorrir;
Gwragedd a ddaw ac a’u llosgant;
Canys nid pobl ddeallgar hwy.
Am hynny ni thosturia wrthynt eu Gwnaethurwr,
A’u Lluniwr ni fydd raslawn wrthynt.
12A bydd yn y dydd hwnnw,
Yr hel Iehofah ffrwyth o ffrwd yr afon
Hyd afon yr Aipht;
A chwi a loffir
Bob yn un ac un, O feibion Israel.
13A bydd yn y dydd hwnnw,
Y cenir âg udgorn mawr,
Ac y daw y rhai colledig yn nhir Assyria,
A’r rhai gwasgaredig yn nhir yr Aipht,
Ac yr ymgrymmant i Iehofah
Yn y mynydd sanctaidd yn Ierwshalem.
Currently Selected:
Eshaiah 27: CTB
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.

:
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.