Gweddi Manasse 1
1
1Arglwydd hollalluog,
Duw ein hynafiaid ni,
Duw Abraham, Isaac a Jacob,
a'u hiliogaeth gyfiawn hwy;
2ti a wnaeth nef a daear a holl ysblander eu trefn,
3ti a rwymodd y môr â gair dy orchymyn,
ti a glodd y dyfnder a'i selio â'th enw ofnadwy a gogoneddus;
4y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu gerbron dy allu di.
5Oherwydd ni ellir goddef gorwychder dy ogoniant,
nac ymddál dan ddicter dy fygwth ar bechaduriaid;
6ond difesur a diamgyffred yw'r drugaredd a addewaist.
7Ti yw'r Arglwydd goruchaf,
tosturiol, hirymarhous, a mawr dy drugaredd,
yn ymatal rhag cosbi drygioni pobl.#1:7 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir: Yn ôl amlder dy drugaredd, Arglwydd, addewaist edifeirwch a maddeuant i'r rhai a bechodd yn dy erbyn, ac yn dy drugaredd anfeidrol ordeiniaist edifeirwch i bechaduriaid, i'w dwyn i iachawdwriaeth.
8Tydi, felly, Arglwydd Dduw y cyfiawn,
nid i rai cyfiawn yr ordeiniaist edifeirwch,
nid i Abraham, Isaac a Jacob, na phechasant yn dy erbyn;
ond ordeiniaist edifeirwch i mi, sy'n bechadur,
9oherwydd lluosocach na thywod y môr yw nifer fy mhechodau i.
Amlhaodd fy nhroseddau, O Arglwydd; amlhau a wnaethant,
fel nad wyf deilwng i edrych i fyny a syllu ar uchder y nefoedd,
gan mor niferus yw fy nghamweddau.
10Rwy'n wargrwm dan gadwyn drom o haearn,
fel na allaf godi fy mhen ar gyfrif fy mhechodau;
nid oes imi ymwared,
gan imi gyffroi dy ddicter di
a gwneud yr hyn sy'n ddrwg yn dy olwg,
trwy godi eilunod ffiaidd a phentyrru pethau atgas.
11Ac yn awr rwy'n darostwng fy nghalon, gan ddeisyf dy diriondeb.
12Pechadur wyf, O Arglwydd, pechadur,
ac yr wyf yn cydnabod fy nhroseddau.
13Gofyn yr wyf, a deisyf arnat,
arbed fi, O Arglwydd, arbed fi.
Paid â'm difetha i gyda'm troseddau;
paid â llidio'n dragwyddol wrthyf, na chadw drygioni mewn stôr imi;
paid â'm condemnio i barthau isaf y ddaear;
oherwydd Duw yr edifeiriol wyt ti, O Arglwydd.
14Ynof fi y dangosi dy ddaioni;
er mor annheilwng wyf, fe'm hachubi yn ôl dy drugaredd fawr.
15Clodforaf di yn wastad holl ddyddiau fy mywyd.
Oherwydd y mae holl lu'r nefoedd yn dy foliannu di,
ac eiddot ti yw'r gogoniant am byth. Amen.
Currently Selected:
Gweddi Manasse 1: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004