YouVersion Logo
Search Icon

Jona 1

1
Anufudd-dod Jona
1Daeth gair yr ARGLWYDD at Jona fab Amittai, a dweud, 2“Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara yn ei herbyn; oherwydd daeth ei drygioni i'm sylw.” 3Ond cododd Jona i ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD i Tarsis. Aeth i lawr i Jopa a chael llong yn mynd i Tarsis, ac wedi talu ei dreuliau aeth arni i fynd gyda hwy i Tarsis oddi wrth yr ARGLWYDD. 4Ond cododd yr ARGLWYDD wynt nerthol ar y môr, a bu storm mor arw ar y môr nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. 5Yr oedd y morwyr wedi dychryn, a phob un yn gweiddi ar ei dduw, a thaflasant y gêr oedd ar y llong i'r môr i'w hysgafnu. Ond yr oedd Jona wedi mynd i grombil y llong i orwedd, ac wedi cysgu. 6A daeth capten y llong ato a gofyn, “Beth yw dy feddwl, yn cysgu? Cod, a galw ar dy dduw; efallai y meddylia'r duw amdanom, rhag ein difetha.”
7Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, “O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod.” Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona. 8Yna dywedasant wrtho, “Dywed i ni,#1:8 Felly Groeg. Hebraeg yn ychwanegu o achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?” 9Atebodd yntau hwy, “Hebrëwr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y môr a'r sychdir.” 10A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, “Beth yw hyn a wnaethost?” Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt. 11Yna dywedasant, “Beth a wnawn â thi, er mwyn i'r môr ostegu inni, oherwydd y mae'n gwaethygu o hyd.” 12Atebodd yntau, “Cymerwch fi a'm taflu i'r môr, ac yna fe dawela'r môr ichwi; oherwydd gwn mai o'm hachos i y daeth y storm arw hon arnoch.” 13Rhwyfodd y dynion yn galed i gyrraedd tir, ond ni allent, gan fod y môr yn gwaethygu o hyd yn eu herbyn. 14Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, paid â gadael inni gael ein difetha am fywyd y dyn hwn, na rhoi gwaed dieuog yn ein herbyn; ti yw'r ARGLWYDD, ac yr wyt yn gwneud fel y gweli'n dda.” 15Yna cymerasant Jona a'i daflu i'r môr, a llonyddodd y môr o'i gynnwrf. 16Ac ofnodd y gwŷr yr ARGLWYDD yn fawr iawn, gan offrymu aberth i'r ARGLWYDD a gwneud addunedau. 17A threfnodd yr ARGLWYDD i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.

Currently Selected:

Jona 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy