YouVersion Logo
Search Icon

Micha 2

2
Tynged Gormeswyr y Tlawd
1Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed,
ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau,
ac ar doriad dydd yn ei wneud,
cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.
2Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio,
a thai, ac yn eu meddiannu;
y maent yn treisio perchennog a'i dŷ,
dyn a'i etifeddiaeth.
3Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwg
na all eich gwarrau ei osgoi;
ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth,
oherwydd bydd yn amser drwg.
4Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch,
a chenir galargan chwerw a dweud,
‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr;
y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo.
Sut y gall neb adfer i mi
ein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ”
5Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbren
yng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.
Ymryson â'r Gau Broffwydi
6Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;
peidied neb â phroffwydo am hyn;
ni ddaw cywilydd arnom.
7A ddywedir hyn am dŷ Jacob?
A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?
Ai ei waith ef yw hyn?
Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daioni
i'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?
8‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelyn
yn cipio ymaith fantell yr heddychol,
ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.#2:8 Hebraeg yn ansicr.
9Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol,
ac yn dwyn eu llety#2:9 Hebraeg, fy ngogoniant. oddi ar eu plant am byth.
10Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi,
oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon.
11Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud,
“Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’
câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”
12“Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob,
a chynullaf ynghyd weddill Israel;
gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra,
fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.
13Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen;
torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan.
 eu brenin o'u blaenau,
a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain.”

Currently Selected:

Micha 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy