YouVersion Logo
Search Icon

Jona 4

4
Dicter Jona a Thrugaredd Duw
1Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig. 2Yna gweddïodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed. 3Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw.” 4Atebodd Duw, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?” 5Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas. 6A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn. 7Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino. 8A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, “Gwell gennyf farw na byw.” 9A gofynnodd Duw i Jona, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?” Atebodd yntau, “Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau.” 10Dywedodd Duw, “Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu. 11Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb sôn am lu o anifeiliaid?”

Currently Selected:

Jona 4: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy