YouVersion Logo
Search Icon

2 Esdras 3

3
Y Weledigaeth Gyntaf Cwynfan Esra
1Yn y ddegfed flwyddyn ar hugain ar ôl cwymp y ddinas, yr oeddwn i ym Mabilon—myfi, Salathiel, a wyf hefyd Esra. Gorweddwn yn aflonydd ar fy ngwely, a'm meddyliau yn llethu fy nghalon, 2am i mi weld anghyfanedd-dra Seion, ond digonedd y rhai oedd yn trigo ym Mabilon. 3Cynhyrfwyd fy ysbryd yn fawr iawn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf eiriau yn mynegi fy mhryder. 4“Arglwydd Iôr,” meddwn, “onid ti a lefarodd yn y dechreuad, pan luniaist y ddaear, a hynny ar dy ben dy hun? Rhoddaist orchymyn i'r llwch, 5a rhoddodd hwnnw i ti Adda yn gorff difywyd. Ond gwaith dy ddwylo di oedd y corff hwnnw hefyd; anedlaist i mewn iddo anadl einioes, a daeth ef yn greadur byw ger dy fron. 6Dygaist ef i'r baradwys yr oedd dy ddeheulaw wedi ei phlannu cyn i'r ddaear erioed ymddangos; 7gosodaist arno gadw un gorchymyn o'r eiddot; ond anwybyddu hwnnw a wnaeth ef, ac ar unwaith pennaist farwolaeth iddo ef a'i hiliogaeth. Ohono ef y ganwyd cenhedloedd a llwythau, pobloedd a theuluoedd, dirifedi. 8Ond byw yn ôl ei hewyllys ei hun a wnaeth pob cenedl, gan ymddwyn yn annuwiol ac yn ddirmygus ger dy fron di; eto ni rwystraist hwy. 9Ond yna, yn ei amser, fe ddygaist y dilyw ar ben trigolion y ddaear, a'u difetha. 10Yr un oedd eu tynged hwy oll: fel y daeth marwolaeth ar Adda, felly hefyd y daeth y dilyw arnynt hwy. 11Er hynny, arbedaist un ohonynt, Noa, ynghyd â'i deulu, a'r holl rai cyfiawn oedd yn ddisgynyddion iddo.
12“Pan ddechreuodd trigolion y ddaear gynyddu, amlhawyd plant a phobloedd a chenhedloedd lawer, ac unwaith eto dechreusant wneud annuwioldeb, mwy hyd yn oed na'r cenedlaethau o'u blaen. 13Felly, a hwythau yn gwneud drygioni ger dy fron, dewisaist i ti dy hun un ohonynt, o'r enw Abraham; 14ceraist ef, ac iddo ef yn unig, yn ddirgel, liw nos, y datguddiaist ddiwedd yr amserau. 15Gwnaethost gyfamod tragwyddol ag ef, gan addo iddo na fyddit byth yn ymadael â'i had ef; rhoddaist Isaac iddo, ac i Isaac rhoddaist Jacob ac Esau. 16Neilltuaist Jacob i ti dy hun, ond bwrw Esau ymaith; ac aeth Jacob yn dyrfa fawr.
17“Pan oeddit yn arwain ei ddisgynyddion allan o'r Aifft, fe'u dygaist at Fynydd Sinai; 18yno gostyngaist yr wybren, ysgydwaist#3:18 Felly Syrieg a rhai Fersiynau eraill. Lladin, sefydlaist. y ddaear, cynhyrfaist y byd, peraist i'r dyfnderoedd grynu, terfysgaist y cyfanfyd. 19Daeth dy ogoniant drwy bedwar porth—tân, daeargryn, gwynt a rhew—er mwyn iti roi'r gyfraith i had Jacob a'r ddeddf i blant Israel. 20Eto ni thynnaist eu calon ddrwg oddi wrthynt, er mwyn i'th gyfraith ddwyn ffrwyth ynddynt. 21Oherwydd yr oedd yr Adda cyntaf wedi ei feichio â chalon ddrwg: cyflawnodd drosedd, ac fe'i gorchfygwyd; ac nid ef yn unig, ond ei holl ddisgynddion hefyd. 22Felly aeth y gwendid yn beth parhaol, ac ynghyd â'r gyfraith yr oedd y drygioni gwreiddiol hefyd yng nghalonnau'r bobl; felly ymadawodd yr hyn sydd dda, ac arhosodd y drwg.
23“Aeth cyfnodau heibio, a daeth y blynyddoedd i ben, ac yna codaist i ti dy hun was o'r enw Dafydd. 24Gorchmynnaist iddo adeiladu dinas i ddwyn dy enw, ac i gyflwyno iti yno offrymau o blith yr hyn sy'n eiddo iti. 25Hynny a fu am flynyddoedd lawer; ond yna aeth trigolion y ddinas ar gyfeiliorn, 26gan ymddwyn ym mhob dim fel Adda a'i holl ddisgynyddion ef; oherwydd yr oedd ganddynt hwythau hefyd galon ddrwg. 27Felly traddodaist dy ddinas dy hun i ddwylo dy elynion.
28“Yna dywedais wrthyf fy hun: ‘Tybed a yw trigolion Babilon yn ymddwyn yn well? Ai dyna pam y daethant i arglwyddiaethu ar Seion?’ 29Ond pan ddeuthum yma, gwelais weithredoedd annuwiol y dyrfa aneirif sydd yma; am ddeng mlynedd ar hugain bellach yr wyf wedi gweld eu drwgweithredwyr lu drosof fy hun. 30Ymollyngodd fy nghalon, oherwydd gwelais fel yr wyt yn cydymddŵyn â hwy yn eu pechod, ac fel yr arbedaist y rhai annuwiol eu ffyrdd; difethaist dy bobl dy hun, ond cedwaist dy elynion yn ddiogel. 31Nid wyt ychwaith wedi rhoi unrhyw arwydd i neb ynglŷn â'r modd y dylid dwyn y drefn hon i ben.#3:31 Yn ôl y Syrieg, modd y mae deall dy ffyrdd di. Tybed a yw gweithredoedd Babilon yn well na rhai Seion? 32A fu i unrhyw genedl arall heblaw Israel dy adnabod di? Pa lwythau sydd wedi ymddiried, fel llwythau Jacob, yn dy gyfamodau di? 33Ond nid yw eu gwobr hwy wedi dod i'r amlwg, na'u llafur wedi dwyn ffrwyth. Yr wyf wedi teithio llawer ymhlith y cenhedloedd, a'u gweld uwchben eu digon, er eu bod yn diystyru dy ddeddfau di. 34Yn awr, felly, pwysa mewn clorian ein drygioni ni a drygioni trigolion y byd; yna ceir gweld ar ba ochr y bydd y pwysau'n troi'r dafol. 35A fu amser erioed pan na phechodd trigolion y ddaear yn dy olwg di? Pa genedl sydd wedi cadw dy ddeddfau fel Israel? 36Y mae'n wir y cei hyd i unigolion sydd wedi cadw dy ddeddfau, ond ni chei genhedloedd a wnaeth hynny.”

Currently Selected:

2 Esdras 3: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy