YouVersion Logo
Search Icon

II Macabeiad 15

15
PENNOD 15
1Ond Nicanor, wrth glywed fod Jwdas a’i lu yn nhueddau Samaria, a ymrôdd heb ddim perygl i ddyfod ar eu huchaf hwy ar y dydd Saboth.
2Er hynny yr Iddewon, y rhai a gymhellwyd i’w ganlyn, a ddywedasant, O na ddistrywia mor greulon ac mor anhrugarog; eithr dyro anrhydedd i’r dydd, yr hwn y darfu i’r hwn sydd yn gweled pob peth ei anrhydeddu â sancteiddrwydd uwchlaw dyddiau eraill.
3Yna y dyn ysgeler yma a ofynnodd a ydoedd un Galluog yn y nef, yr hwn a orchmynasai gadw y dydd Saboth.
4A phan atebasant, Y mae yn y nef Arglwydd bywiol galluog, yr hwn a orchmynnodd gadw y seithfed dydd;
5Yna eb y llall, A minnau hefyd wyf alluog ar y ddaear, ac yr wyf yn gorchymyn i chwi gymryd arfau, a dwyn i ben faterion y brenin. Er hynny ni allai efe ddwyn i ben ei annuwiol amcan.
6Felly Nicanor, gan ymddyrchafu â mawr falchedd, a rodd ei fryd ar wneuthur cof o’r oruchafiaeth a gaffai efe ar Jwdas a’r rhai oedd gydag ef.
7Ond Macabeus oedd bob amser yn ymddiried trwy fawr obaith y byddai’r Arglwydd yn amddiffynnwr iddo:
8Am hynny efe a gynghorodd ei wŷr nad ofnent ddyfodiad y Cenhedloedd yn eu herbyn, ond gan fod yn eu cof y cynhorthwy a gawsent o’r blaen o’r nef, edrych ohonynt yn awr hefyd am yr oruchafiaeth a’r cymorth a ddeuai iddynt oddi wrth yr Hollalluog.
9Ac felly gan eu cysuro hwy allan o’r gyfraith a’r proffwydi, ac am ben hynny gan gofio iddynt y rhyfeloedd a wnaethent o’r blaen yn llwyddiannus, efe a’u gwnaeth hwy’n llawenach.
10Ac wedi iddo godi calonnau ynddynt, efe a roddes iddynt eu siars, gan ddangos hefyd iddynt ffalster y Cenhedloedd, a thoriad eu llwon.
11Felly efe a arfogodd bob un ohonynt, nid yn gymaint â diogelwch tarianau a gwaywffyn, ag â chysur trwy eiriau da: a hefyd efe a ddangosodd iddynt freuddwyd credadwy, ac a’u llawenychodd yn fawr.
12A hyn ydoedd ei weledigaeth ef; Fod Oneias, yr hwn a fuasai yn archoffeiriad, gŵr rhinweddol a da, parchedig o ymarweddiad, addfwyn o naws, ymadroddus hefyd, ac wedi llafurio er yn fachgen ym mhob pwnc o rinwedd, yn codi ei ddwylo, ac yn gweddïo dros holl gorff yr Iddewon.
13Pan ddarfu hyn, yn yr un ffunud fe a ymddangosodd iddo ŵr penllwyd, yn rhagori mewn gogoniant, yr hwn oedd o ryfeddol a rhagorol fawredd.
14Yna yr atebodd Oneias, gan ddywedyd, Dyma un sy hoff ganddo y brodyr, yr hwn sydd yn gweddïo llawer dros y bobl a’r ddinas sanctaidd, sef Jeremeias, proffwyd Duw.
15Ar hynny, fe a estynnodd Jeremeias ei ddeheulaw, ac a roddodd i Jwdas gleddyf aur, ac wrth ei roddi a ddywedodd fel hyn;
16Cymer y cleddyf sanctaidd yma, rhodd Duw, â’r hwn yr archolli di dy wrthwynebwyr.
17Fel hyn wedi eu cysuro yn dda trwy eiriau Jwdas, y rhai oedd dda iawn a nerthol i’w cynhyrfu at wroldeb, ac i gysuro calonnau y gwŷr ieuainc, hwy a fwriadasant na wersyllent, ond y gosodent arnynt yn rymus, ac yn wrol y dibennent y mater law i law, yn gymaint â bod y ddinas, y cysegr, a’r deml, mewn perygl.
18Canys yr oedd y gofal a gymerasant hwy am eu gwragedd, a’u plant, eu brodyr, a’u ceraint, yn y cyfrif lleiaf gyda hwynt: ond yr ofn mwyaf a’r pennaf oedd am y deml sanctaidd.
19Hefyd yr oedd yn fawr gofal y rhai oedd yn y ddinas dros y llu ydoedd allan mewn ymdrech.
20Ac fel yr oedd pawb yn disgwyl beth a fyddai’r diben, a’r gelynion weithian wedi nesáu, a’r llu wedi ymfyddino, a’r anifeiliaid wedi eu neilltuo i leoedd cymwys, a’r gwŷr meirch wedi eu cyfleu yn yr esgyll;
21Macabeus, gan weled dyfodiad y lliaws, a’r amryw baratoad arfau, a chreulondeb y bwystfilod, a estynnodd allan ei ddwylo tua’r nef, ac a alwodd ar yr Arglwydd yr hwn sydd yn gwneuthur rhyfeddodau; gan wybod nad yw goruchafiaeth yn dyfod wrth arfau, ond ei fod ef yn ei rhoddi i’r rhai teilwng, megis ag y gwelo efe yn dda.
22Ac wrth weddïo efe a ddywedodd fel hyn; Tydi, Arglwydd, a ddanfonaist dy angel yn amser Eseceias brenin Jwdea, yr hwn a ddifethodd o wersyll Sennacherib gant a phump a phedwar ugain mil.
23Felly yr awr hon, O Arglwydd y nefoedd, anfon angel da o’n blaen ni, er ofn ac arswyd iddynt:
24A thrwy nerth dy fraich di trawer hwy â dychryn, y rhai sydd yn dyfod yn erbyn dy sanctaidd bobl i gablu. Ac fel hyn y diweddodd efe.
25Yna Nicanor a’r rhai oedd gydag ef a ddynesasant ag utgyrn ac â chaniadau.
26Ond Jwdas a’r rhai oedd gydag ef a aethant ynghyd â’r gelynion trwy weddi ac ymbil.
27Felly yn wir, gan ymladd â’u dwylo, a gweddïo ar Dduw â’u calonnau, hwy a laddasant nid llai na phymtheng mil ar hugain: canys trwy ymddangosiad Duw yr oeddynt hwy yn llawen iawn.
28Yr awron pan ddarfu y rhyfel, hwy, yn dychwelyd â llawenydd, a wybuant fod Nicanor yn gorwedd yn farw yn ei arfogaeth.
29Yna hwy a lefasant yn uchel, ac a fendithiasant yr Arglwydd yn iaith eu gwlad.
30A Jwdas, pen-amddiffynnwr y dinaswyr yng nghorff ac enaid, yr hwn erioed a ddygasai ewyllys da i’r rhai oedd o’i genedl, a orchmynnodd dorri pen Nicanor, a’i law, a’i ysgwydd, a’u dwyn i Jerwsalem.
31A phan ddaeth efe yno, wedi galw ynghyd ei genedl ei hun, a gosod yr offeiriaid gerbron yr allor, efe a alwodd am y rhai oedd o’r tŵr,
32Ac a ddangosodd iddynt ben Nicanor ysgeler, a llaw’r cablwr, yr hon trwy fawr falchedd a estynasai efe allan yn erbyn tŷ sanctaidd yr Hollalluog.
33Ac wedi iddo dorri ymaith dafod Nicanor annuwiol, efe a ddywedodd y rhoddai efe ef i’r adar yn ddrylliau, ac y crogai efe wobr ei ynfydrwydd ef gyferbyn â’r deml.
34Felly pawb a folianasant tua’r nef y gogoneddus Arglwydd, gan ddywedyd, Bendigedig fyddo’r hwn a gadwodd ei fangre ei hun yn ddihalog.
35Yna y crogodd efe ben Nicanor ar y tŵr, yn arwydd amlwg ac eglur i bawb o gymorth yr Arglwydd.
36A hwy a ordeiniasant i gyd trwy ddeddf gyffredin, na ollyngid heibio y dydd hwn mewn modd yn y byd yn anenwog, ond cadw yn ŵyl y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, yr hwn a elwir yn iaith y Syriaid Adar, y dydd o flaen gŵyl Mardocheus.
37Am hynny gan ddigwyddo fel hyn i Nicanor, a meddiannu o’r Hebreaid y ddinas er yr amser hynny, minnau hefyd a ddiweddaf yma.
38Ac os da y gwneuthum, ac megis y gweddai i’r histori, hynny yw’r peth a ewyllysiais; ond os yn llesg ac yn annoeth, hynny yw yr hyn a allwn ei ddwyn i ben.
39Canys megis ag y mae yn ddrwg yfed gwin o’r neilltu, ac felly drachefn ddwfr; ac megis y mae gwin wedi ei gymysgu â dwfr yn hyfryd ac yn flasus; felly gosodiad y mater allan sydd yn flasus i glustiau y rhai a ddarllenant yr histori. Ac yma y bydd diwedd.

Currently Selected:

II Macabeiad 15: BWMA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy