YouVersion Logo
Search Icon

Gweledigeth 21

21
Pen. xxj.
3, 24: Gwynvydedic cyflwr yr ei dywiol, 8, 27 A thrwm helhynt yr ei andywiol. 11 Agwedd y Caersalem nefawl, ac am wreic yr Oen.
1AC mi weleis nef newydd, a dayar newydd: cans y nef cyntaf, ar ddayar cyntaf eithont heybio, ac ni doedd dim moor mwy.
2A’ myvi Ioan y weleis y dinas santaidd Caersalem newyð yn discin or nef oddiwrth Ddyw gwedy y thrwsio mal priodasverch ar vedr y #21:2 eu, ei, i, higwr.
3Ac mi glyweis lleis mawr allan o’r nef yn dwedyd Syna. #21:3 * lluestyyTabernacl Dyw gyda’r dynion, ac ef yn dric gydac hwynt, ac hwy y vyddant bobyl yddo ef, a Dyw y hun, y bydd y Dyw hwy ynghyd ac ynthwy.
4A Dyw y sych ymaith yr oll ðeigre oddiwrth y llygeid: ac ny bydd dim myrfolaeth mwy, na thristwch, na liefein, ac ny bydd dim poen mwy: cans y pethey cyntaf eithont heybiaw.
5Ar vn y eisteddoedd ar yr eisteddle, y ddwad, Syna, yrwyf yn gwneythur pob peth oc newyð: ac ef ddwad wrthyfi Escrifena: can ys y maent y geiriey yma yn ffyddlawn ac yn gywir.
6Ac ef y ddwad wrthyfi. E ðerfy mi wyf #21:6 Alpha ac Omegaα ac y dechreyad ar diwedd. Mi rrof yr vn y sydd sychedic, o ffynon dwr y bywyd yn #21:6 * ratrrydd.
7Yr vn orchfyga, y geiff etifeðy yr holl pethey, ac mi vyða Ddyw yðo ef, ac ynte vyð mab y miney.
8Ond yr ofnoc ac #21:8 * digred, yr ei eb greduanghredadwy ar #21:8 yr ei scelercasddynion a’r llyaswyr, ar pyteinwyr ar #21:8 swyuwyr, sibyldēwyrcyfareddwyr ar delw‐addolwyr, a phob celwddoc y rran hwynt y vydd yny pwll, ysydd yn llosgi o dan a’ brymstan, yr hwn ydiwr eil myrfolaeth.
9Ac vn or seith Angel, yrrein oeddent ar seith phiol ganthynt yn llawn or seith pla diwethaf y ddoyth attaf, ac ymddiddanoedd a mi, dan ddwedyd, #21:9 * Dyred, DegleDabre: mi ddangosaf ytti y priodasverch, gwreic yr Oen.
10Ac ef ym dugoeð i ymaith ynyr yspryd y #21:10 vynydd’lan ychwel vawr, ac y ðangosoeð y mi y dinas vawr Caersalem santeidd, yn discin alllan or nef oddiwrth Ddyw.
11A’ gogoniant Dyw genthi, ae discleyrad hi oeð debic y vaen gwerthvawrysaf, megis maen Iaspar #21:11 * crystallizantieglaer mal crystal.
12Ac yrydoedd yddi #21:12 gaer, vurvagwyr vawr ywchel a’ doyddec porth iddi, ac wrth y pyrth doyddec Angel, ac enwey yn escrivenedic, yrrein ydynt doyddec llwyth #21:12 plantmeybion yr Israel.
13Ar barth y Dwyrein yr oedd tri phorth ac ar du y Gogledd tri phorth, ac ar tu y Dehey tri phorth, ac ar y tu Gorllewyn tri phorth.
14A #21:14 * Llat. murus.i. mur, gwalmagwyr y dinas oedd a doyddec #21:14 sailgryndwal yddi, ac yndynt hwy enwey y doyddec ebostolion yr Oen.
15Ac yr ydoedd gan yr vn y ymddiddanoeð a mi, corsen aur y vessyr y dinas, ae phyrth hi, ae magwyr hi.
16A’r dinas y osodwyd yn bedwar #21:16 ochrog ae #21:16 * hydhud oedd cymeint ae lled, ac ef y vessyroedd y dinas ar corsen doyðec mil #21:16 ystod: ac hud, ac lled ae hywchter sy yn #21:16 gogymetrologymeint.
17Ac ef y vesyroedd y magwyr hi, #21:17 * cant a’ .44 cuvyddpedwar cuvyt a seith igein, wrth vessyr dun, #21:17 * ys efyr hwn yw, mesur yr Angel.
18Ac adeil y magwyr hi oedd o vaen Iaspar, a’r dinas oedd aur pur, yn debic y wydyr gloyw.
19A’ gryndwal magwyr y dinas oedd gwedy y thrwsio a’ phob rryw vaen gwerthfawr: y gryndwal cynta oedd maen Iaspar: yr eil o Saphir, y trydydd oedd o vaen Chalcedon: y pedwerydd Smaragdus.
20Y pymed Sardonix: y chweched Sardius: y seithfet Chrysolithus: yr wythfed Beryl: y nawfed Topazius: y decfed Chrysoprasus: yr vnfed a’r ddec Hiacinthus: y doyddecfed Amethystus.
21Ar doyddec porth doyddec perl oeddent, a’ phob porth ’sydd o vn Perl, a’ heol y dinas’ sy aur pur, mal gwydyr disgleyredd.
22Ac ny weleis i vn demel yndi: cans yr Argl=Ddyw hollallvawc a’r Oen, #21:22 * estyw y themel hi.
23Ac nyd rreid yr dinas, wrth yr hayl, nar lleyad y #21:23 lewychy, dywynu’oleyo yndi: cans gogoniant Dyw y goleyoeð hi, a’r Oen yw goleyni hi.
24Ar bobyl cadwedic y rrodiant yny goleyni hi: a’ Brenhinoedd y ddayar y ddugant y gogoniant ac anrrydedd yddi hi.
25Ac ny chayer y phyrth hi can #21:25 * ar hydtrwyr dydd: ny vydd ddim nos yno.
26A’ gogoniant, ac anrrydedd, y Cenedloedd a dducir yddi.
27Ac nyd a y mewn yddi dim aflan, neu beth bynac y weythio #21:27 * fieiddbethcasineb ney gelwddey, ond y rei y escrifenwyt #21:27 ynmewn Llyfr bowyd yr Oen.

Currently Selected:

Gweledigeth 21: SBY1567

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy