1
Datguddiad 8:1
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am tua hanner awr.
Compare
Explore Datguddiad 8:1
2
Datguddiad 8:7
Seiniodd y cyntaf ei utgorn. Yna daeth cenllysg a thân, yn gymysg â gwaed, ac fe'u bwriwyd ar y ddaear. Llosgwyd traean o'r ddaear, llosgwyd traean o'r coed, llosgwyd pob porfa las.
Explore Datguddiad 8:7
3
Datguddiad 8:13
Edrychais, a chlywais eryr yn hedfan yng nghanol y nef ac yn llefain â llais uchel, “Gwae, gwae, gwae drigolion y ddaear o achos seiniau'r utgyrn eraill y mae'r tri angel eto i'w seinio!”
Explore Datguddiad 8:13
4
Datguddiad 8:8
Seiniodd yr ail angel ei utgorn. Yna taflwyd i'r môr rywbeth tebyg i fynydd mawr yn llosgi'n dân. Trodd traean o'r môr yn waed
Explore Datguddiad 8:8
5
Datguddiad 8:10-11
Seiniodd y trydydd angel ei utgorn. Yna syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl; syrthiodd ar draean o'r afonydd ac ar ffynhonnau'r dyfroedd. Enw'r seren yw Wermod, a throdd traean o'r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos chwerwi'r dyfroedd.
Explore Datguddiad 8:10-11
6
Datguddiad 8:12
Seiniodd y pedwerydd angel ei utgorn. Yna trawyd traean o'r haul a thraean o'r lleuad a thraean o'r sêr, nes tywyllu traean ohonynt, ac ni bu dim golau am draean o'r dydd, a'r un modd am draean o'r nos.
Explore Datguddiad 8:12