1
Datguddiad 12:11
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, yn ddibris o'u bywyd hyd angau.
Compare
Explore Datguddiad 12:11
2
Datguddiad 12:10
Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud: “Hon yw awr gwaredigaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef, oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr, yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
Explore Datguddiad 12:10
3
Datguddiad 12:9
Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.
Explore Datguddiad 12:9
4
Datguddiad 12:12
Am hynny, gorfoleddwch, chwi'r nefoedd, a chwi sy'n preswylio ynddynt! Gwae chwi'r ddaear a'r môr, oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw'r amser sydd ganddo!”
Explore Datguddiad 12:12
5
Datguddiad 12:7
Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau
Explore Datguddiad 12:7
6
Datguddiad 12:17
Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu.
Explore Datguddiad 12:17
7
Datguddiad 12:1-2
Gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed a choron o ddeuddeg seren ar ei phen. Yr oedd yn feichiog, ac yn gweiddi yn ei gwewyr a'i hing am gael esgor.
Explore Datguddiad 12:1-2
8
Datguddiad 12:5-6
Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd â gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef. Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau.
Explore Datguddiad 12:5-6
9
Datguddiad 12:3-4
Yna gwelwyd arwydd arall yn y nef, draig fflamgoch fawr, a chanddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith diadem. Ysgubodd ei chynffon draean o sêr y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni.
Explore Datguddiad 12:3-4
10
Datguddiad 12:14-16
Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff. Poerodd y sarff o'i genau afon o ddŵr ar ôl y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif. Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau.
Explore Datguddiad 12:14-16