1
Hebreaid 10:25
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.
Compare
Explore Hebreaid 10:25
2
Hebreaid 10:24
Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da
Explore Hebreaid 10:24
3
Hebreaid 10:23
Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon.
Explore Hebreaid 10:23
4
Hebreaid 10:36
Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd.
Explore Hebreaid 10:36
5
Hebreaid 10:22
gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân.
Explore Hebreaid 10:22
6
Hebreaid 10:35
Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo.
Explore Hebreaid 10:35
7
Hebreaid 10:26-27
Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach; dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr.
Explore Hebreaid 10:26-27