1
2 Corinthiaid 4:18
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
Compare
Explore 2 Corinthiaid 4:18
2
2 Corinthiaid 4:16-17
Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd. Oherwydd y baich ysgafn o orthrymder sydd arnom yn awr, darparu y mae, y tu hwnt i bob mesur, bwysau tragwyddol o ogoniant i ni
Explore 2 Corinthiaid 4:16-17
3
2 Corinthiaid 4:8-9
Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith, ein herlid ond nid ein gadael yn amddifad, ein taro i lawr ond nid ein dinistrio.
Explore 2 Corinthiaid 4:8-9
4
2 Corinthiaid 4:7
Ond y mae'r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw'r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni.
Explore 2 Corinthiaid 4:7
5
2 Corinthiaid 4:4
yr anghredinwyr y dallodd duw'r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw.
Explore 2 Corinthiaid 4:4
6
2 Corinthiaid 4:6
Oherwydd y Duw a ddywedodd, “Llewyrched goleuni o'r tywyllwch”, a lewyrchodd yn ein calonnau i roi i ni oleuni'r wybodaeth am ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.
Explore 2 Corinthiaid 4:6