1
Diarhebion 4:23
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
BWM
Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.
2
Diarhebion 4:26
Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.
3
Diarhebion 4:24
Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.
4
Diarhebion 4:7
Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall.
5
Diarhebion 4:18-19
Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
6
Diarhebion 4:6
Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di.
7
Diarhebion 4:13
Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
8
Diarhebion 4:14
Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.
9
Diarhebion 4:1
Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.