Ac efe a wnaeth felly, gan rodio ’n noeth ac heb esgidiau; a dyweddodd IEHOFAH,
Megis y rhodiodd Fy ngwas Eshaiah yn noeth ac heb esgidiau,
Am dair blynedd, yn arwydd ac yn argoel
Yn erbyn yr Aipht ac yn erbyn Cwsh,
Felly yr arwain brenhin Assyria
Gaethion yr Aipht, a chaeth-glud Cwsh,
Y llangciau a’r henafgwŷr, yn noethion ac heb esgidiau,
Ac yn din-noeth, yn warth i’r Aipht