Byddai'n well iddynt hwy fod heb ddod i adnabod ffordd cyfiawnder, yn hytrach na'i hadnabod ac yna droi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. Gwireddwyd, yn eu hachos hwy, y ddihareb:
“Y mae ci yn troi'n ôl at ei gyfog ei hun”,
a hefyd:
“Y mae'r hwch a ymolchodd yn ymdrybaeddu yn y llaid.”