Mae gorsedd ein Duw yn y nefoedd,
Ac ef sy’n rheoli pob peth.
Bendithiwch yr Arglwydd, angylion,
Sy’n gwneuthur ei air yn ddi-feth.
Bendithiwch yr Arglwydd, ei luoedd,
Sy’n gwneud ei ewyllys; a chwi,
Ei holl greadigaeth, bendithiwch
Yr Arglwydd ein Duw gyda mi.