Iddo ef yr hwn a ddychon ech cadarnhau yn ol vy Euangel, a’ phregethiat Iesu Christ, gan ymatguddiat y dirgelwch, yr hwn vu gyfrinachol er yn oes oesoedd: (ac yr awrhon yr eglurhawyt, ac a gyoeddwyt ymplith yr ol’ Cenetloedd gan Scrythurae ’r Prophwyti, wrth ’orchymyn y tragyvythol Dduw er mwyn vvyddtot ffydd) I Dduw, meddaf, yr vnic ddoeth, bid gogoniant trwy Iesu Christ yn oes oesoedd. Amen .
Hvvn a escrivenwyt at y Ruueiniet o Corinthus ac a ddanvonvvyt trwy Phoibe, hon oedd wenidoc yr Eccles yn‐Cenchraia.