Matthaw 2

2
PENNOD II.
Y Magi yn cael ei cyfarwyddo at Christ trwy ymddangosiad ei seren. Ioseph a’r Iesu a’i fam yn ffoi i’r Aigypt. Herod yn lladd y plant ac yn marw. Dychweliad Christ i Galilaia.
1AC wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Iudaia, yn nyddiau Herod, wele y Magi#2.1 Am hanes y Magi, eu athrawiaeth a’u llyfrau, gwelwch Iamblichi de Mysteriis liber, in notis ad finem. Stanley’s History of Philosophy. Neu y gair Magi yn yr Encyclopedia Saesonig. a ddaethant o’r dwyrain i Ierusalem gan ymofyn. 2Pa le y mae’r hwn a anwyd yn frenin i’r Iuddaion? canys gwelsom ei seren#2.2 “Cyntaf fu, er mynnu mawl, Y Seren dêg fesurawl, A weled gynt, o wlad Gain Yn nod Aur yn y Dwyrain; Yn arwydd, cyhudrwydd cêd Geni’r Brenin gogoned.” Iolo Goch. O.C. 1402. ef yn y dwyrain, a daethom i’w gyfarch ef. 3Pan glybu y brenin Herod am hyn, efe a gythryblwyd, a holl Ierusalem gyd ag ef. 4A gwedi dwyn ynghŷd yr holl arch-offeiriaid, a ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd a hwynt, pa le genid y Christ. 5Hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem yn Iudaia; canys fel hyn yr ysgrifenwyd gan y prophwyd, 6A tydi Bethlehem yn dir Iudaia, nid wyt y lleiaf yn mlith y llywodraetheu yn Iudaia; canys o honot ti y daw llywydd yr hwn a bortha fy mhobl Israel. 7Yna Herod yn galw y Magi yn ddirgel, a gafodd lawn wybodaeth am amser ymddagosiad y seren. 8A gan eu danfon i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynwch yn fanwl am y mab bach; a pan gaffoch ef, hyspyswch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod i’w gyfarch ef. 9A hwy gwedi clywed y brenin a aethant allan: ac wele y seren a welsant yn y dwyrain a aeth o’u blaen hwy, hyd iddi fyned a sefyll goruwch y lle yr oed y mab bach. 10A phan welsant y seren felly, llawenychasant a llawenydd mawr rhagorol. 11A pan aethant i’r tŷ, hwy a gawsant y mab bach gyd â Maria ei fam, yna gan ymostyngu cysanasant ef; ac wedi agorid eu sacheu cynnygasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr. 12Ac wedi eu rhybuddio gan freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a giliasant i’w gwlad trwy ffordd arall. 13Ac wedi iddynt ymadaw, wele cennad yr Arglwydd yn ymddangos i Ioseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bach a’i fam, a ffo i’r Aigypt, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys y mae Herod yn ceisio y mab bach i’w ladd ef. 14Yna fe a gyfododd ac a gymmerodd y plentyn a’i fam o hŷd nos, ac a giliodd i’r Aigypt. 15Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod; fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, pan ddywedodd, O’r Aigypt y gelwais fy mab. 16Yna Herod pan weles ei dwyllo gan y Magi, a ffrommodd yn fawr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd pob bachgen a oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, yn ol yr amser y gafodd wybodaeth oddi wrth y Magi. 17Y pryd hynny y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremias y prophwyd, pan ddywedodd, 18Llef a glywyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr; Rachel yn wylo am ei meibion, ac ni chymmerai ei chysuro, o herwydd nad oeddynt, 19Ond pan fu farw Herod, wele cennad yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseph yn yr Aigypt, 20Gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y mab bach a’i fam, a dos i dir Israel: canys bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn. 21Yna cyfododd a cymmerodd y plentyn a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel. 22Eithr pan glybu fod Archelaos yn llywodraethu ar Iudaia yn lle Herod ei dad, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rhybyddio mewn breuddwyd efe a giliodd i barthau Galilaia. 23Ac a aeth, ac a drigodd mewn dinas a elwid Nazaret: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, Y fe a geiff ei alw yn Nazaraiad.

Одоогоор Сонгогдсон:

Matthaw 2: JJCN

Тодруулга

Хуваалцах

Хувилах

None

Тодруулсан зүйлсээ бүх төхөөрөмждөө хадгалмаар байна уу? Бүртгүүлэх эсвэл нэвтэрнэ үү

YouVersion нь таны хэрэглээг хувийн болгохын тулд күүки ашигладаг. Манай вэбсайтыг ашигласнаар та манай Нууцлалын бодлогод заасны дагуу күүки ашиглахыг зөвшөөрч байна