Lyfr y Psalmau 134
134
1Holl weision Arglwydd mawr y nef,
Bendithiwch Ef a’i fawredd fry,
Y rhai yn oriau tywyll nos
Ydych yn aros yn ei dŷ.
2Deuwch, dyrchefwch ddwylaw glân
Ynghafell burlan Ior y nef;
Trwy ganu llafar fawl di‐lyth
Bendigwch byth ei fawredd Ef.
3Yr Ior a wnaeth y nefoedd wiw
A chylch amryliw ’r ddaear lawr,
Hwn a ddyhidlo fel y gwlith
O Sïon it’ ei fendith fawr.
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.