Rhufeiniaid 5
5
1Am hynny, a nyni wedi ein cyfiawnhau o ffydd, bydded gennym heddwch tuag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 2yr hwn y cawsom drwyddo ein mynediad hefyd mewn ffydd i’r gras hwn y safwn ynddo, ac ymffrostiwn mewn gobaith am ogoniant Duw. 3Ac nid hynny’n unig, eithr ymffrostiwn hefyd yn ein gorthrymderau, gan wybod bod gorthrymder yn cynhyrchu amynedd, 4ac amynedd brofiad, a phrofiad obaith; 5a’r gobaith hwn ni sioma,#Salm 119:116. oherwydd tywallt cariad Duw yn ein calonnau, trwy’r Ysbryd Glân a roddwyd i ni. 6Canys Crist, a ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros annuwiolion. 7Canys prin y bydd neb farw dros un cyfiawn; dros ddyn da efallai y beiddiai un hyd yn oed farw; 8ond fe brawf Duw ei gariad ei hun tuag atom, gan i Grist, a ni eto yn bechaduriaid, farw trosom. 9Mwy o lawer, ynteu, a ni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed, yr achubir ni trwyddo ef rhag y digofaint. 10Canys os cymodwyd ni, a ni yn elynion, â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymodi, yr achubir ni trwy ei fywyd ef; 11ac nid hynny’n unig, ond yr ydym hefyd yn ymffrostio yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, y cawsom yn awr y cymod drwyddo.
12Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i mewn i’r byd a thrwy bechod farwolaeth, felly hefyd aeth marwolaeth rhagddi ar bob dyn, oherwydd i bawb bechu; 13canys yr oedd pechod yn y byd cyn deddf, ond ni chyfrifir pechod heb fod deddf. 14Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y sawl na phechasant yn nhebygrwydd trosedd Adda, yr hwn sydd batrwm yr un a oedd i ddyfod. 15Eithr nid fel y camwedd, felly hefyd y dawn; canys os trwy gamwedd yr un y bu farw’r lliaws, mwy o lawer yr ymhelaethodd i’r lliaws ras Duw, a’r rhodd drwy ras yr un dyn Iesu Grist. 16Ac nid megis trwy bechu o un y mae y rhodd; canys daeth y farn oddi wrth un i gondemniad, ond y dawn oddi wrth gamweddau lawer i gyfiawnhad. 17Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y bydd i’r rhai a dderbyn helaethrwydd o ras ac o rodd cyfiawnder deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist. 18Am hynny, ynteu, megis trwy un camwedd y daeth y farn#5:18 Ychwanegiad yw’r geiriau, daeth y farn a daeth y dawn. i bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred gyfiawn y daeth y dawn i bob dyn i gyfiawnhad bywyd. 19Canys, megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaed y lliaws yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd-dod un y gwneir y lliaws yn gyfiawn. 20Ond daeth deddf i mewn fel y cynyddai y camwedd, eithr lle cynyddodd pechod, tra-ymhelaethodd gras, 21fel, megis y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Tällä hetkellä valittuna:
Rhufeiniaid 5: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945