Yspryd IEHOFAH (sydd) arnaf,
Canys enneiniodd IEHOFAH fyfi;
I bregethu i’r rhai llariaidd yr anfonodd Efe fi,
I rwymo y rhai drylliedig eu calon,
I gyhoeddi i’r caethion ryddid,
Ac i’r rhai mewn rhwymau lawn-ollyngdod;
I gyhoeddi blwyddyn foddhâol gan IEHOFAH,
A dydd dïal ein Duw ni;
I gysuro yr holl rai galarus;
I beri (llawenydd) i alarwŷr Tsïon,
I roddi iddynt goron hardd yn lle lludw,
Olew llawenydd yn lle galar,
Gwisg moliant yn lle yspryd llesg,
Fel y gelwid hwynt yn Dderw cyfiawnder,
Yn Blanhigyn IEHOFAH, fel y prydferther Ef.