Raamattusovellus-logo
Hakukuvake

Eshaiah 61:1-3

Eshaiah 61:1-3 CTB

Yspryd Iehofah (sydd) arnaf, Canys enneiniodd Iehofah fyfi; I bregethu i’r rhai llariaidd yr anfonodd Efe fi, I rwymo y rhai drylliedig eu calon, I gyhoeddi i’r caethion ryddid, Ac i’r rhai mewn rhwymau lawn-ollyngdod; I gyhoeddi blwyddyn foddhâol gan Iehofah, A dydd dïal ein Duw ni; I gysuro yr holl rai galarus; I beri (llawenydd) i alarwŷr Tsïon, I roddi iddynt goron hardd yn lle lludw, Olew llawenydd yn lle galar, Gwisg moliant yn lle yspryd llesg, Fel y gelwid hwynt yn Dderw cyfiawnder, Yn Blanhigyn Iehofah, fel y prydferther Ef.