Ar dy furiau di, Ierwshalem, y gosodais geidwaid yr holl ddydd,
A’r holl nos, beunydd, ni thawant.
Coffhäwŷr IEHOFAH, na bydded distawrwydd gennych,
Ac na adêwch ddistawrwydd iddo Ef,
Hyd oni sicrhâo, ac hyd oni osodo Efe
Ierwshalem yn foliant ar y ddaear.