1
Eshaiah 60:1
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Cyfod, goleuer di, (Ierwshalem), canys daeth dy oleuni, A gogoniant IEHOFAH arnat ti a gododd.
Vertaa
Tutki Eshaiah 60:1
2
Eshaiah 60:3
Ac fe rodia ’r cenhedloedd yn dy oleuni, A brenhinoedd yn nisglaerded dy godiad.
Tutki Eshaiah 60:3
3
Eshaiah 60:2
Canys wele, tywyllwch a orchuddia ’r ddaear, A magddu y bobloedd, Ond arnat ti y cwyd IEHOFAH, A’i ogoniant arnat ti a welir.
Tutki Eshaiah 60:2
4
Eshaiah 60:22
Y bychan a fydd yn fil, A’r gwael yn genedl gref; Myfi IEHOFAH yn ei dymmor a brysuraf hyn.
Tutki Eshaiah 60:22
5
Eshaiah 60:19
Ni bydd yr 2 haul 『 1 i ti』 mwyach yn oleuni liw dydd, Ac, mewn disglaerdeb, y lleuad ni oleua i ti; Ond bydd 2 IEHOFAH 『 1 i ti』 yn oleuni tragywyddol, A ’th Dduw yn brydferthwch it’?
Tutki Eshaiah 60:19
6
Eshaiah 60:20
Ni fachluda mwyach dy haul, A ’th leuad ni chilia, Canys IEHOFAH a fydd it’ yn oleuni tragywyddol, Ac fe dderfydd dyddiau dy alar.
Tutki Eshaiah 60:20
7
Eshaiah 60:5
Yna yr ofni ac y llawenychi, Ac arswydo ac helaethu a wna dy galon, Pan dröer attat gyfoeth y môr, A golud y cenhedloedd fo’n dyfod attat.
Tutki Eshaiah 60:5
8
Eshaiah 60:4
Cyfod dy 2 lygaid 『 1 oddi amgylch』 a gwêl; Hwynt oll a gasglwyd, maent yn dyfod attat; Dy feibion o hirbell a ddeuant, A ’th ferched ar dy ystlys a fegir.
Tutki Eshaiah 60:4
9
Eshaiah 60:21
A ’th bobl oll yn gyfiawn, Yn dragywydd yr etifeddant y tir, Blaguryn Fy mhlaniad, gwaith Fy nwylaw, fel y’m prydferther.
Tutki Eshaiah 60:21
10
Eshaiah 60:18
Ni chlywir mwy drais yn dy wlad, (Na) distryw a dinystr yn dy derfynau, Eithr ti a elwi dy fagwyrydd, “Iachawdwriaeth” A ’th byrth, “Moliant.”
Tutki Eshaiah 60:18
11
Eshaiah 60:11
Ac agored fydd dy byrth beunydd, Dydd a nos ni cheuir hwynt, I ddwyn attat lu ’r cenhedloedd A’u brenhinoedd yn arweiniedig.
Tutki Eshaiah 60:11
12
Eshaiah 60:6
Llifeiriant o gamelod a ’th orchuddia, Camelod ieuaingc Midian ac Ephah: Hwynt oll o Saba a ddeuant, Aur a thus a ddygant, A moliant IEHOFAH a efengylant.
Tutki Eshaiah 60:6
13
Eshaiah 60:10
Ac fe adeilada meibion y dieithr dy furiau, A’u brenhinoedd a ’th wasanaethant; Canys yn Fy nig y ’th darewais, Ac yn Fy moddlonrwydd y tosturiaf wrthyt.
Tutki Eshaiah 60:10
14
Eshaiah 60:15
Yn lle bod o honot yn adawedig, Yn gasedig, ac heb gynniweirydd (trwot), Gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragywyddol, Yn llawenydd yn oes oesoedd.
Tutki Eshaiah 60:15
15
Eshaiah 60:16
A sugni laeth cenhedloedd, Ië, bronnau brenhinoedd a sugni, A chei wybod mai Myfi IEHOFAH (yw) dy Iachawdwr, A ’th Adbrynwr, Cadarn Israel.
Tutki Eshaiah 60:16