YouVersion Logo
Search Icon

Josua 3

3
Pobl Israel yn Croesi'r Iorddonen
1Cododd Josua'n fore a chychwynnodd ef a'r holl Israeliaid o Sittim a dod at yr Iorddonen, a gwersyllu yno cyn croesi. 2Ymhen tridiau aeth y swyddogion drwy'r gwersyll, 3a gorchymyn i'r bobl, “Pan welwch yr offeiriaid, y Lefiaid, yn codi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, cychwynnwch o'ch lle ac ewch ar ei hôl, er mwyn ichwi wybod pa ffordd i fynd, oherwydd nid ydych wedi tramwyo'r ffordd hon o'r blaen#3:3 Hebraeg, oherwydd… o'r blaen ar ddiwedd adn. 4.. 4Er hynny bydded pellter o tua dwy fil o gufyddau rhyngoch chwi a'r arch; peidiwch â mynd yn nes na hyn.” 5Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Ymgysegrwch, oherwydd yfory bydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhyfeddodau yn eich mysg.” 6A dywedodd wrth yr offeiriaid, “Codwch arch y cyfamod ac ewch drosodd o flaen y bobl.” Ac wedi iddynt godi arch y cyfamod, aethant o flaen y bobl.
7Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses. 8Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, ‘Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.’ ”
9Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Nesewch a gwrandewch eiriau'r ARGLWYDD eich Duw. 10Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid: 11bydd arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn croesi o'ch blaen drwy'r Iorddonen. 12Felly dewiswch yn awr ddeuddeg dyn o blith llwythau Israel, un o bob llwyth. 13Pan fydd gwadnau traed yr offeiriaid sy'n cludo arch yr ARGLWYDD, Arglwydd yr holl ddaear, yn cyffwrdd â'r Iorddonen, fe wahenir ei dyfroedd, a bydd y dŵr sy'n llifo i lawr oddi uchod yn cronni'n un pentwr.” 14Pan gychwynnodd y bobl o'u pebyll i groesi'r Iorddonen, yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod ar flaen y bobl. 15Yn awr, bydd yr Iorddonen yn gorlifo ei glannau holl ddyddiau'r cynhaeaf; ond pan ddaeth cludwyr yr arch at yr Iorddonen, a thraed yr offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn cyffwrdd ag ymyl y dŵr, 16cronnodd y dyfroedd oedd yn llifo i lawr oddi uchod, a chodi'n un pentwr ymhell iawn i ffwrdd yn Adam, y dref sydd gerllaw Sarethan. Darfu'n llwyr am y dyfroedd oedd yn llifo i lawr tua Môr yr Araba, y Môr Marw, a chroesodd yr holl bobl gyferbyn â Jericho. 17Tra oedd Israel gyfan yn croesi ar dir sych, safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn drefnus ar sychdir yng nghanol yr Iorddonen, hyd nes i'r holl genedl orffen croesi'r afon.

Currently Selected:

Josua 3: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy