YouVersion Logo
Search Icon

Josua 4

4
Codi Meini Coffa
1Wedi i'r holl genedl orffen croesi'r Iorddonen, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, 2“Dewiswch ddeuddeg dyn o blith y bobl, un o bob llwyth. 3Gorchmynnwch iddynt godi deuddeg maen o ganol yr Iorddonen, o'r union fan y saif traed yr offeiriaid arno, a'u cymryd drosodd gyda hwy, a'u gosod yn y lle y byddant yn gwersyllu heno.” 4Galwodd Josua y deuddeg dyn a ddewisodd o blith yr Israeliaid, un o bob llwyth, 5a dywedodd wrthynt, “Ewch drosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich Duw at ganol yr Iorddonen, a choded pob un ei faen ar ei ysgwydd, yn ôl nifer llwythau'r Israeliaid, 6i fod yn arwydd yn eich mysg. Pan fydd eich plant yn gofyn yn y dyfodol, ‘Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?’ 7yna byddwch yn dweud wrthynt fel y bu i ddyfroedd yr Iorddonen gael eu hatal o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan aeth hi drosodd, ataliwyd y dyfroedd. Felly bydd y meini hyn yn gofeb i'r Israeliaid hyd byth.” 8Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnodd Josua, a chodi deuddeg maen o wely'r Iorddonen, yn ôl nifer llwythau'r Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua, a'u cludo drosodd gyda hwy i'r man lle'r oeddent yn gwersyllu, a'u gosod yno. 9Hefyd gosododd Josua ddeuddeg maen yng nghanol yr Iorddonen, lle safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod, ac yno y maent hyd heddiw.
10Bu'r offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn sefyll yng nghanol yr Iorddonen nes cwblhau popeth y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Josua ei ddweud wrth y bobl, y cyfan yr oedd Moses wedi ei orchymyn i Josua. Yr oedd y bobl yn brysio i groesi, 11ac wedi iddynt oll orffen, fe groesodd arch yr ARGLWYDD a'r offeiriaid yng ngŵydd y bobl. 12Hefyd fe groesodd gwŷr Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse yn arfog o flaen yr Israeliaid, fel yr oedd Moses wedi dweud wrthynt. 13Croesodd tua deugain mil o filwyr profiadol gerbron yr ARGLWYDD i'r frwydr yn rhosydd Jericho. 14Dyrchafodd yr ARGLWYDD Josua y diwrnod hwnnw yng ngolwg Israel gyfan, a daethant i'w barchu ef, fel yr oeddent wedi parchu Moses holl ddyddiau ei einioes.
15Wedi i'r ARGLWYDD ddweud wrth Josua 16am orchymyn i'r offeiriaid oedd yn cludo arch y dystiolaeth esgyn o'r Iorddonen, 17gorchmynnodd Josua iddynt, “Dewch i fyny o'r Iorddonen.” 18Ac fel yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn esgyn o ganol yr Iorddonen, a gwadnau eu traed yn cyffwrdd tir sych, dychwelodd dyfroedd yr Iorddonen i'w lle, a llifo'n llawn at ei glannau megis cynt. 19Ar y degfed dydd o'r mis cyntaf y daeth y bobl i fyny o'r Iorddonen a gwersyllu yn Gilgal, ar gwr dwyreiniol Jericho. 20Gosododd Josua y deuddeg maen a gymerwyd o wely'r Iorddonen yn Gilgal, 21a dweud wrth yr Israeliaid, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w rhieni yn y dyfodol, ‘Beth yw ystyr y meini hyn?’ 22dywedwch wrthynt i Israel groesi'r Iorddonen ar dir sych; 23oherwydd sychodd yr ARGLWYDD eich Duw ddŵr yr Iorddonen o'ch blaen nes ichwi groesi, fel y gwnaeth gyda'r Môr Coch, pan sychodd hwnnw o'n blaen nes inni ei groesi. 24Digwyddodd hyn er mwyn i holl bobloedd y ddaear wybod mor gryf yw yr ARGLWYDD, ac er mwyn ichwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw bob amser.”

Currently Selected:

Josua 4: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy