YouVersion Logo
Search Icon

Josua 2

2
Josua'n Anfon Ysbiwyr i Jericho
1O Sittim anfonodd Josua fab Nun ddau ysbïwr yn ddirgel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i ysbïo'r wlad, yn arbennig Jericho.” Aethant hwythau, a chyrraedd tŷ rhyw butain o'r enw Rahab, a lletya yno. Dywedwyd wrth frenin Jericho, 2“Edrych! Y mae rhai o'r Israeliaid wedi cyrraedd yma heno i chwilio'r wlad.” 3Anfonodd brenin Jericho at Rahab a dweud, “Tro allan y dynion a ddaeth atat i'th dŷ, oherwydd wedi dod i ysbïo'r holl wlad y maent.” 4Wedi i'r wraig gymryd y ddau ddyn a'u cuddio, dywedodd, “Do, fe ddaeth y dynion ataf, ond ni wyddwn o ble'r oeddent; 5a chyda'r nos, pan oedd y porth ar fin cau, aeth y dynion allan. Ni wn i ble'r aethant, ond brysiwch ar eu hôl; yr ydych yn sicr o'u dal.” 6Yr oedd hi wedi mynd â'r dynion i fyny ar y to, a'u cuddio â'r planhigion llin a oedd ganddi'n rhesi yno. 7Aeth y dynion a oedd yn eu hymlid ar eu hôl hyd at rydau'r Iorddonen; a chaewyd y porth, wedi i'r ymlidwyr fynd allan.
8Cyn i'r ysbïwyr gysgu, aeth Rahab i fyny ar y to, 9a dweud wrthynt, “Gwn fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom, a holl drigolion y wlad mewn gwewyr o'ch plegid. 10Oherwydd clywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y Môr Coch o'ch blaen pan ddaethoch allan o'r Aifft, ac fel y bu ichwi ddifodi Sihon ac Og, dau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen. 11Pan glywsom hyn, suddodd ein calonnau, ac nid oes hyder gan neb i'ch wynebu, oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw chwi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod. 12Am hynny, tyngwch i mi yn enw'r ARGLWYDD, am i mi wneud caredigrwydd â chwi, y gwnewch chwithau'r un modd â'm teulu i; rhowch imi sicrwydd 13y cadwch yn fyw fy nhad a'm mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, a phawb sy'n perthyn iddynt, ac yr arbedwch ein bywydau rhag angau.” 14Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn barod i farw yn eich lle, dim ond i chwi beidio â datgelu'n cyfrinach; pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi inni'r wlad, fe wnawn garedigrwydd a thegwch â thi.” 15Yna gollyngodd Rahab hwy i lawr drwy'r ffenestr ar raff, oherwydd yr oedd ei thŷ ar fur y ddinas, a hithau'n byw ar y mur. 16Dywedodd wrthynt, “Ewch tua'r mynydd, rhag i'r rhai sy'n eich ymlid daro arnoch; cuddiwch yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd, ac wedyn ewch eich ffordd eich hun.” 17Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu, 18pan fyddwn yn dod i mewn i'r wlad, os na fyddi wedi rhwymo'r edau ysgarlad hon yn y ffenestr y gollyngaist ni drwyddi, ac wedi galw ynghyd i'r tŷ dy dad a'th fam, dy frodyr a'th deulu i gyd. 19Pwy bynnag a â allan trwy ddrws dy dŷ, bydd yn gyfrifol am ei waed ei hun, a byddwn ni'n ddieuog; ond pwy bynnag a fydd gyda thi yn y tŷ, byddwn ni'n gyfrifol am ei waed os codir llaw yn ei erbyn. 20Os datgeli ein cyfrinach, byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu iti.” 21Atebodd hithau, “Rwy'n cytuno”; ac anfonodd hwy ar eu taith. Wedi iddynt fynd, rhwymodd yr edau ysgarlad yn y ffenestr. 22Aethant hwythau, a chyrraedd y mynyddoedd ac aros yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd. 23Bu'r ymlidwyr yn chwilio amdanynt bob cam o'r ffordd, ond heb eu cael. Yna daeth y ddau i lawr o'r mynyddoedd yn eu hôl, a chroesi drosodd at Josua fab Nun ac adrodd wrtho bopeth a ddigwyddodd iddynt, 24a dweud, “Yn wir y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r holl wlad yn ein dwylo, ac y mae'r trigolion i gyd mewn gwewyr o'n plegid.”

Currently Selected:

Josua 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy