Titus 2
2
A.D. 65. —
1 Y mae yn hyfforddi Titus yn ei athrawiaeth, ac yn ei fuchedd. 9 Rhan gweision, a phob math o Gristonogion.
1Eithr llefara di’r pethau a weddo i #1 Tim 1:10; 6:3; 2 Tim 1:13; Pen 1:9athrawiaeth iachus: 2Bod o’r hynafgwyr #2:2 yn wyliadwrus.yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: 3Bod o’r #1 Tim 2:9; 1 Pedr 3:3hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i #2:3 rai sanctaidd.sancteiddrwydd; nid yn #2:3 ddiafliaid.enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni: 4Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, 5Yn #2:5 bwyllog.sobr, yn #2:5 ddiwair.bur, yn gwarchod gartref, yn dda, #1 Cor 14:34; Eff 5:22; Col 3:18; 1 Pedr 3:1yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, #Rhuf 2:24; 1 Tim 6:1fel na chabler gair Duw. 6Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr: 7#1 Tim 4:12Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb, 8#1 Tim 6:3Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; #1 Tim 5:14; 1 Pedr 2:12, 15; 3:16fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi. 9Cynghora #Eff 6:5weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt #Eff 5:24ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd; 10Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth. 11Canys ymddangosodd #Pen 3:4gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn; 12Gan ein dysgu ni #Col 1:22i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; 13#1 Cor 1:7; Phil 3:20Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist; 14#Gal 1:4; 2:20Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun #Exod 15:16; 19:5yn bobl briodol, #Eff 2:10awyddus i weithredoedd da. 15Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. #1 Tim 4:12Na ddiystyred neb di.
Zur Zeit ausgewählt:
Titus 2: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society