Titus 1
1
A.D. 65. —
5 I ba beth y gadawyd Titus yn Creta. 6 Pa gyneddfau a ddylai fod mewn esgob. 11 Rhaid yw cau safnau y rhai a ddysgant y pethau ni ddylent: 12 a pha fath wŷr ydynt.
1Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, #1 Tim 3:16; 6:3yr hon sydd yn ôl duwioldeb; 2#1:2 Mewn gobaith.I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd #Num 23:19y digelwyddog Dduw #Rhuf 16:25; 2 Tim 1:9, 10cyn dechrau’r byd; 3Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, #1 Thess 2:4; 1 Tim 1:11am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr; 4At #2 Cor 2:13; 7:13; 8:6, 16; Gal 2:3Titus, #1 Tim 1:2 fy mab naturiol yn ôl #2 Cor 4:13; 2 Pedr 1:1y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni. 5Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn #1:5 ddiffygiol.ôl, ac #Act 14:23y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: 6#1 Tim 3:2, &cOs yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: 7Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel #1 Cor 4:1, 2goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, #Lef 10:9nid yn wingar, #1 Tim 3:8; 1 Pedr 5:2nid yn drawydd, nid yn budrelwa; 8Eithr yn lletygar, yn caru #1:8 y rhai da.daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; 9Yn dal yn lew #1 Tim 1:10; 6:3; 2 Tim 1:13; 2:2; 4:3; Pen 2:1y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd. 10Canys #1 Tim 1:6y mae llawer yn anufudd, yn ofer‐siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad: 11Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, #2 Tim 3:6y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, #1 Tim 6:5er mwyn budrelw. 12#Act 17:28Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau #1:12 segurllyd.gorddïog. 13Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd; 14#1 Tim 1:4; 4:7Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a #Col 2:22gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd. 15#Luc 11:39, 40, 41; Rhuf 14:14, 20; 1 Cor 6:12; 10:23, 25; 1 Tim 4:3, 4Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr #Rhuf 14:23i’r rhai halogedig a’r di‐ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy. 16Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr #2 Tim 3:5; Jwdas 4ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda #Rhuf 1:28; 2 Tim 3:8yn #1:16 anghyfarwydd.anghymeradwy.
Zur Zeit ausgewählt:
Titus 1: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society