Titus 3
3
A.D. 65. —
1 Y mae Paul yn hyfforddi Titus pa bethau a ddysg, a pha bethau ni ddysg efe iddynt. 10 Am ochelyd heretic cyndyn. 12 Y mae yn dangos iddo i ba fan, a pha bryd, y deuai ato ef; ac felly y mae yn dibennu.
1Dwg ar gof iddynt fod #Rhuf 13:1; 1 Pedr 2:13yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod i bob gweithred dda, 2Bod heb gablu neb, #2 Tim 2:24, 25yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. 3Canys #1 Cor 6:11; Eff 2:1; Col 3:7; 1 Pedr 4:3yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casáu ein gilydd. 4Eithr pan ymddangosodd #Pen 2:11daioni a #3:4 dyn‐serch Duw ein Hiachawdwr.chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn, 5#Rhuf 3:20; 9:11; 11:6; Eff 2:4, 9; 2 Tim 1:9Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy #Ioan 3:3, 5; Eff 5:26olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; 6#Esec 36:25; Act 2:33; Rhuf 5:5Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn #3:6 Gr. oludog.helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr: 7Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y’n gwneid yn etifeddion #Rhuf 3:24yn ôl gobaith bywyd tragwyddol. 8Gwir yw’r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo #Ad. 14i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. 9Eithr #1 Tim 1:4; 2 Tim 2:23gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer. 10#Mat 18:17; Rhuf 16:17; 2 Thess 3:6, 14; 2 Ioan 10Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd: 11Gan wybod fod y cyfryw un wedi #3:11 ei ddymchwelyd.ei ŵyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan. 12Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu #Act 20:4; 2 Tim 4:12Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aeafu. 13Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac #Act 18:24Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim. 14A dysged #Ad. 8yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont #Phil 1:11; 4:17; 2 Pedr 1:8yn ddiffrwyth. 15Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.
Zur Zeit ausgewählt:
Titus 3: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society