Datguddiad 21
21
A.D. 96. —
1 Nef newydd, a daear newydd. 10 Jerwsalem nefol, a’i chyflawn bortread. 23 Nid rhaid iddi wrth haul: gogoniant Duw yw ei goleuni hi. 24 Brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu cyfoeth iddi hi.
1Ac #Esa 65:17; 66:22; 2 Pedr 3:13mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio; a’r môr nid oedd mwyach. 2A myfi Ioan a welais #Esa 52:1; Gal 4:26; Heb 11:10; 12:22; 13:14; Pen 3:12y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef, wedi ei pharatoi #Esa 61:10; 2 Cor 11:2fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr. 3Ac mi a glywais lef #21:3 fawr.uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae #Lef 26:11, 12; Esec 43:7; 2 Cor 6:16; Pen 7:15pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt. 4#Esa 25:8; Pen 7:17Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; a #1 Cor 15:26, 54marwolaeth ni bydd mwyach, #Esa 35:10na #21:4 galar.thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio. 5A dywedodd #Pen 4:2; 20:11yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, #Esa 43:19; 2 Cor 5:17Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae’r #Pen 19:9geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon. 6Ac efe a ddywedodd wrthyf, #Pen 16:17Darfu. #Pen 1:8; 22:13Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd. #Esa 55:1; Ioan 4:10, 14; 7:37; Pen 22:17I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. 7Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda #21:7 y pethau hyn.bob peth: ac #Heb 8:10mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab. 8#1 Cor 6:9; Gal 5:21; Eff 5:5; 1 Tim 1:9; Heb 12:14; Pen 22:15Ond i’r rhai ofnog, a’r di‐gred, a’r ffiaidd, a’r llofruddion, a’r puteinwyr, a’r swyn‐gyfareddwyr, a’r eilun‐addolwyr, a’r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn #Pen 20:14, 15y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw’r ail farwolaeth. 9A daeth ataf un o’r #Pen 15:1, 6, 7saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti’r #Pen 19:7briodasferch, gwraig yr Oen. 10Ac efe a’m dug i ymaith #Pen 1:10; 17:3yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi’r #Ad. 2ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o’r nef oddi wrth Dduw, 11A gogoniant Duw ganddi: a’i golau hi oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial; 12Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi #Esec 48:31ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel. 13O du’r dwyrain, tri phorth; o du’r gogledd, tri phorth; o du’r deau, tri phorth; o du’r gorllewin, tri phorth. 14Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac #21:14 arnynt.#Mat 16:18; Eff 2:20ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen. 15A’r hwn oedd yn ymddiddan â mi, #Esec 40:3; Pen 11:1oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro’r ddinas, a’i phyrth hi, a’i mur. 16A’r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a’i hyd sydd gymaint â’i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A’i hyd, a’i lled, a’i huchder, sydd yn ogymaint. 17Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo’r angel. 18Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis: a’r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw. 19A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus; 20Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus. 21A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o’r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw. 22A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a’r Oen, yw ei theml hi. 23#Esa 24:23; 60:19A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi: #Pen 22:5canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi, a’i goleuni hi ydyw’r Oen. 24#Esa 60:3, 5; 66:12A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi. 25#Esa 60:11A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys #Esa 60:20; Sech 14:7; Pen 22:5ni bydd nos yno. 26A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi. 27#21:27 A phob peth aflan, ac yn gwneuthur ffieidd‐dra a chelwydd, nid â ddim i mewn iddi: ond, & c.#Esa 35:8; 52:1; 60:21; Joel 3:17; Pen 22:14, 15Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd‐dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu #Phil 4:3; Pen 3:5; 20:12yn llyfr bywyd yr Oen.
Zur Zeit ausgewählt:
Datguddiad 21: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society