Datguddiad 20
20
A.D. 96. —
2 Rhwymo Satan dros fil o flynyddoedd. 5 Yr atgyfodiad cyntaf: 6 mai gwyn eu byd y rhai sydd iddynt gyfran ynddo. 7 Gollwng Satan yn rhydd drachefn. 8 Gog a Magog. 10 Bwrw diafol i’r pwll o dân a brwmstan. 12 Yr atgyfodiad diwethaf cyffredinol.
1Ac mi a welais angel yn disgyn o’r nef, a #Pen 1:18chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law. 2Ac efe a ddaliodd #Pen 12:9; Edrych 2 Pedr 2:4y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a’i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd, 3Ac a’i bwriodd ef i’r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, #Pen 16:14, 16; Ad. 8fel na thwyllai efe’r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni’r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser. 4Ac mi a welais #Dan 7:9, 22, 27; Mat 19:28; Luc 22:30orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a #1 Cor 6:2, 3barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais #Pen 6:9eneidiau’r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, #Pen 13:12a’r rhai nid addolasent y bwystfil #Pen 13:15, 16na’i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac #Rhuf 8:17; 2 Tim 2:12; Pen 5:10a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd. 5Eithr y lleill o’r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni’r mil blynyddoedd. Dyma’r atgyfodiad cyntaf. 6Gwynfydedig a sanctaidd yw’r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i’r #Pen 2:11; 21:8ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant #Esa 61:6; 1 Pedr 2:9; Pen 1:6 5:10offeiriaid i Dduw ac i Grist, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd. 7A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o’i garchar; 8Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, #Esec 38:2; 39:1Gog a Magog, #Pen 16:14i’w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr. 9A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a’r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o’r nef, ac a’u hysodd hwynt. 10A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, #Pen 19:20lle y mae’r bwystfil a’r gau broffwyd; #20:10 ac y poenir hwynt.a #Pen 14:10hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd. 11Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a’r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd #2 Pedr 3:7, 10, 11y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt. 12Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; #Dan 7:10a’r llyfrau a agorwyd: #Pen 3:5; 13:8; 21:27a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, #Jer 17:10; 32:19; Mat 16:27; Rhuf 2:6; Pen 2:23yn ôl eu gweithredoedd. 13A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth #20:13 a’r bedd.ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. 14A #1 Cor 15:26, 54, 55marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân. #Pen 21:8Hon yw’r ail farwolaeth. 15A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.
Zur Zeit ausgewählt:
Datguddiad 20: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society