Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 22

22
A.D. 96. —
1 Afon dwfr y bywyd. 2 Pren y bywyd. 5 Duw sydd oleuni i’w ddinas ei hun. 9 Yr angel heb fynnu ei addoli. 18 Ni ellir rhoddi dim at air Duw, na thynnu dim oddi wrtho.
1Ac efe a ddangosodd imi #Esec 47:1; Sech 14:8afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a’r Oen. 2#22:2 Neu, Yn y canol, yr heol a’r afon o’r ddau du, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, bob mis yn rhoddi ei gnwd.#Esec 47:12; Pen 21:21Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd #Gen 2:9; Pen 2:7pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd: 3A #Sech 14:11phob melltith ni bydd mwyach: #22:3 a.ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef, 4A #Mat 5:8; 1 Cor 13:12; 1 Ioan 3:2hwy a gânt weled ei wyneb ef; #Pen 3:12; 14:1a’i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt. 5#Pen 21:23, 25Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid #Salm 36:9y mae’r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd. 6Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, #Pen 19:9; 21:5Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw’r proffwydi sanctaidd #Pen 1:1a ddanfonodd ei angel i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys. 7#Pen 3:11Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: #Pen 1:3gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn. 8A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a’u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, #Pen 19:10mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn. 9Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, #Pen 19:10Gwêl na wnelych: canys cyd‐was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y proffwydi, ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn. Addola Dduw. 10#Dan 8:26; 12:4; Pen 10:4Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: #Rhuf 13:11; Iago 5:8; 1 Pedr 4:7; Pen 1:3oblegid y mae’r amser yn agos. 11#2 Tim 3:13Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a’r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a’r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a’r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto. 12Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; #Esa 40:10; 62:11a’m gwobr sydd gyda mi, i roddi #Rhuf 2:6; 14:12; Mat 16:27i bob un fel y byddo ei waith ef. 13#Esa 41:4; 44:6; Pen 1:8, 11; 21:6Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r diwethaf. 14Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt #22:14 gyfiawnder, neu, awdurdod.fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas. 15#1 Cor 6:9, 10; Gal 5:21; Col 3:6; Pen 9:20, 21; 21:8Oddi allan y mae’r cŵn, a’r swyn‐gyfareddwyr, a’r puteinwyr, a’r llofruddion, a’r eilun‐addolwyr, a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd. 16#Pen 1:1Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi. #Pen 5:5Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r #Num 24:17; Sech 6:12; 2 Pedr 1:10; Pen 2:28Seren fore eglur. 17Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. #Esa 55:1; Pen 21:6A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad. 18Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, #Deut 4:2; 12:32; Diar 30:6Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: 19Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, #Exod 32:33; Salm 69:28Duw a dynn ymaith ei ran ef #22:19 oddi wrth bren y bywyd.allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. 20Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu. 21#Rhuf 16:20, 24; 2 Thess 3:18Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.
DIWEDD

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 22: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.