Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 17

17
A.D. 96. —
3, 4 Gwraig wedi ei gwisgo â phorffor ac ysgarlad, a chwpan aur yn ei llaw, yn eistedd ar y bwystfil; 5 yr hon yw Babilon fawr, mam pob ffieidd‐dra. 9 Dehongliad y saith pen, 12 a’r deg corn. 14 Goruchafiaeth yr Oen. 16 Cosbedigaeth y butain.
1A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith ffiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthyf, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth #Nahum 3:4; Pen 19:2y butain fawr #Jer 51:13; Ad. 15sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer; 2#Pen 18:3Gyda’r hon y puteiniodd brenhinoedd #Jer 51:7; Pen 14:8 18:3y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi. 3Ac efe a’m dygodd i i’r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o #Pen 13:1enwau cabledd, a #Ad. 9saith ben #Ad. 12iddo, a deg corn. 4A’r wraig #Pen 18:12, 16oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei #17:4 goreuro.gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd‐dra ac aflendid ei phuteindra. 5Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, #2 Thess 2:7DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM #17:5 puteindra.PUTEINIAID A FFIEIDD‐DRA’R DDAEAR. 6Ac mi a welais #Pen 18:24y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr. 7A’r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a’r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â’r saith ben ganddo, a’r deg corn. 8Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a #Pen 13:1bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod, a #Pen 13:10myned i ddistryw: a #Pen 13:3rhyfeddu a wna’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, #Pen 13:8y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, #17:8 ac a fydd.er ei fod. 9#Pen 13:18Dyma’r meddwl sydd â doethineb ganddo. #Pen 13:1Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae’r wraig yn eistedd arnynt. 10Ac y #17:10 maent yn.mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a’r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig. 11A’r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw’r wythfed, ac o’r saith y mae, ac i ddistryw y mae’n myned. 12#Dan 7:20; Sech 1:18, 19, 21; Pen 13:1A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda’r bwystfil. 13Yr un meddwl sydd i’r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth a’u hawdurdod i’r bwystfil. 14#Pen 16:14; 19:19Y rhai hyn a ryfelant â’r Oen, a’r Oen a’u gorchfyga hwynt: oblegid #Deut 10:17; 1 Tim 6:15; Pen 19:16Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a’r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon. 15Ac efe a ddywedodd wrthyf, #Esa 8:7Y dyfroedd a welaist, lle mae’r butain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd #17:15 a thafodau.ac ieithoedd. 16A’r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a’i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a’i chnawd hi a fwytânt hwy, ac #Pen 18:8a’i llosgant hi â thân. 17Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw. 18A’r wraig a welaist, #Pen 16:19yw’r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 17: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.