Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 16

16
A.D. 96. —
1 Yr angylion yn tywallt allan eu ffiolau digofaint. 2 Y plâu yn canlyn ar hyn. 15 Crist yn dyfod fel lleidr. Gwyn eu byd y rhai a wyliant.
1Ac mi a glywais lef #16:1 fawr.uchel allan o’r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear. 2A’r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a #Exod 9:9bu cornwyd drwg a blin ar y dynion #Pen 13:16, 17oedd â nod y bwystfil arnynt, a’r rhai #Pen 13:14a addolasent ei ddelw ef. 3A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac #Exod 7:17, 20efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr. 4A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed. 5Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, #Pen 1:4, 8; 4:8; 11:17yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, #16:5 Neu, a sanctaidd.a’r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn. 6Oblegid #Mat 23:34; Pen 13:15gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed; canys y maent yn ei haeddu. 7Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd, Ie, #Pen 15:3Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di. 8A’r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân. 9A #16:9 llosgwyd.phoethwyd y dynion â gwres mawr; a #Ad. 11, 21hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef. 10A’r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid, 11Ac #Ad. 9, 21a gablasant Dduw’r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd. 12A’r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a #Edrych Jer 50:38; 51:36; Pen 17:15sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd #16:12 Gr. y rhai sydd o godiad haul.y dwyrain. 13Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn #Pen 12:9y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau’r #Pen 19:20; 20:10gau broffwyd. 14Canys ysbrydion cythreuliaid, #2 Thess 2:9; Pen 13:13; 19:20yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear, a’r holl fyd, i’w casglu hwy i #Pen 17:14; 19:19; 20:8ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Hollalluog. 15#Mat 24:45; Pen 3:3Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, #2 Cor 5:3; Pen 3:4, 18fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef. 16Ac efe a’u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg, Armagedon. 17A’r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i’r awyr; a daeth llef #16:17 fawr.uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, #Pen 21:6Darfu. 18Ac #Pen 4:5; 8:5; 11:19yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear, cymaint daeargryn, ac mor fawr. 19A #Pen 14:8gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr #Pen 18:5a ddaeth mewn cof gerbron Duw, #Esa 51:23; Jer 25:15, 16; Pen 14:10i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef. 20A #Pen 6:14phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd. 21#Pen 11:19A chenllysg mawr, #16:21 o bwys talentau.fel talentau, a syrthiasant o’r nef ar ddynion: a #Ad. 9, 11dynion a gablasant Dduw am bla’r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 16: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.