Datguddiad 18
18
A.D. 96. —
2 Cwymp Babilon: 4 gorchymyn pobl Dduw i gilio allan ohoni: 9 brenhinoedd y ddaear, 11 gyda’r marchnatawyr, a’r llongwyr, yn ddrwg ganddynt drosti. 20 Y saint yn llawenychu o achos barn Duw arni hi.
1Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o’r nef, ac awdurdod mawr ganddo; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef. 2Ac efe a lefodd yn groch â llef #18:2 fawr.uchel, gan ddywedyd, #Esa 21:9; Jer 51:8; Pen 14:8Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac #Esa 13:21; 21:8; 34:14; Jer 50:39; 51:37aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan, ac #Esa 34:11; Marc 5:2, 3yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas. 3Oblegid yr holl genhedloedd #Pen 14:8; 17:2a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan #18:3 nerth.amlder ei moethau hi. 4Ac mi a glywais lef arall o’r nef yn dywedyd, #Esa 48:20; 52:11; Jer 50:8; 51:6, 45; 2 Cor 6:17Deuwch allan ohoni hi, fy mhobl i, fel na byddoch gyd‐gyfranogion o’i phechodau hi, ac na dderbynioch o’i phlâu hi. 5Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef, a #Pen 16:19Duw a gofiodd ei hanwireddau hi. 6#Salm 137:8; Jer 50:15, 29; 2 Tim 4:14; Pen 13:10Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi’r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd: #Pen 14:10yn y cwpan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddauddyblyg. 7Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o #18:7 boenedigaeth.ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn #Esa 47:7, 8frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim. 8Am hynny yn un dydd y daw ei phlâu hi, sef marwolaeth, a galar, a newyn; a #Pen 17:16hi a lwyr losgir â thân: oblegid cryf yw’r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi. 9Ac wylo amdani, a galaru drosti, a wna #Esec 26:16, 17; Pen 17:2; Ad. 3brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi, #Ad. 18; Pen 19:3pan welont fwg ei llosgiad hi, 10Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei #18:10 phoenedigaeth.gofid hi, a dywedyd, #Esa 21:9; Pen 14:8Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Babilon, y ddinas gadarn! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di. 11A #Esec 27:27–36; Ad. 3marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt: 12Marsiandïaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed #18:12 peraidd.thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor, 13A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a #18:13 chyrff.chaethweision, ac #Esec 27:13eneidiau dynion. 14A’r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt; ac ni chei hwynt ddim mwyach. 15Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei #18:15 phoenedigaeth.gofid hi, gan wylo a galaru. 16A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, #Pen 17:4yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgarlad, ac wedi ei #18:16 goreuro.gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau! 17Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A #Esa 23:14; Esec 27:29phob llong‐lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â’u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell, 18Ac a lefasant, #Ad. 9pan welsant fwg ei llosgiad hi, gan ddywedyd, #Pen 13:4Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr honno! 19A #Jos 7:6; Job 2:12hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant, gan wylo a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, #18:19 oherwydd ei thraul hi.trwy ei chost hi! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi. 20#Esa 44:23; 49:13; Jer 51:48Llawenha o’i phlegid hi, y nef, a chwi, apostolion sanctaidd a phroffwydi; oblegid #18:20 barnodd Duw eich barn chwi allan ohoni hi.#Luc 11:49, 50; Pen 19:2dialodd Duw arni drosoch chwi. 21Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a’i bwriodd i’r môr, gan ddywedyd, #Jer 51:64Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach. 22A #Esa 24:8; Jer 7:34; 16:9; 25:10; Esec 26:13llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach; 23A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid #Esa 23:8dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn‐gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd. 24Ac #Pen 17:6ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear.
Zur Zeit ausgewählt:
Datguddiad 18: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society