Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 15

15
A.D. 96. —
1 Y saith angel â’r saith pla diwethaf. 3 Caniad y rhai a orchfygant y bwystfil. 7 Y saith ffiol yn llawn o ddigofaint Duw.
1Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw. 2Ac mi a welais megis #Pen 4:6; 21:18môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, #Pen 5:8; 14:2a thelynau Duw ganddynt. 3A chanu y maent #Exod 15:1gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, #Salm 111:2; 139:14Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; #Salm 145:17; Pen 16:7cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin #15:3 cenhedloedd, neu, oesoedd.y saint. 4#Exod 15:14, 15; Jer 10:7Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid #Esa 66:23yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd. 5Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd #Pen 11:19; Edrych Num 1:50teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored: 6A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o’r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a #Exod 28:6, 8; Esec 44:17, 18; Pen 1:13gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur. 7Ac un o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. 8A llanwyd #Exod 40:34; 1 Bren 8:10; Esa 6:4y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes darfod cyflawni saith bla’r saith angel.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 15: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.