Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 14

14
A.D. 96. —
1 Tra yr oedd yr Oen yn sefyll ar fynydd Seion gyda’i fintai, 6 angel yn pregethu yr efengyl. 8 Cwymp Babilon. 15 Cynhaeaf y byd, a dodiad y cryman i mewn. 20 Gwin‐gynhaeaf, a gwinwryf digofaint Duw.
1Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef #Pen 7:4bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau. 2Ac mi a glywais lef o’r nef, #Pen 1:15; 19:6fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef #Pen 5:8telynorion yn canu ar eu telynau: 3A #Pen 5:9; 15:3hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a’r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu’r gân, ond y pedair mil a’r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear. 4Y rhai hyn yw’r rhai ni halogwyd #14:4 gyda.â gwragedd; #2 Cor 11:2canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw’r rhai #Pen 3:4; 17:14sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn #Pen 5:9a brynwyd oddi wrth ddynion, #Iago 1:18yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen. 5Ac #Salm 32:2; Seff 3:13yn eu genau ni chaed twyll: canys #Eff 5:27difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw. 6Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a’r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, #14:6 a thafod.ac iaith, a phobl: 7Gan ddywedyd â llef #14:7 fawr.uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac #Neh 9:6; Salm 146:5, 6; Act 14:15; 17:24addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a’r ddaear, a’r môr, a’r ffynhonnau dyfroedd. 8Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, #Esa 21:9; Jer 51:8; Pen 18:2Syrthiodd, syrthiodd Babilon, #Pen 11:8; 16:19; 17:5; 18:10, 21y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb. 9A’r trydydd angel a’u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef #14:9 fawr.uchel, Os addola neb y bwystfil a’i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law, 10Hwnnw hefyd #Salm 75:8; Esa 51:17; Jer 25:15a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg #Pen 18:6a dywalltwyd yn #Pen 16:19ffiol ei lid ef; ac #Pen 20:10efe a boenir mewn #Pen 19:20tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen: 11A #Esa 34:10; Pen 19:3mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli’r bwystfil a’i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef. 12#Pen 13:10Yma y mae amynedd y saint: yma y mae’r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd Iesu. 13Ac mi a glywais lef o’r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai #1 Cor 15:18; 1 Thess 4:16sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a’u gweithredoedd sydd #14:13 yn canlyn gyda hwynt.yn eu canlyn hwynt. 14Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd #Pen 1:13tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. 15Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, gan lefain â llef #14:15 fawr.uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, #Joel 3:13; Mat 13:39Bwrw dy gryman i mewn, a #14:15 chynaeafa.meda: canys daeth yr amser i ti i #14:15 gynaeafu.fedi; oblegid #14:15 sychodd.aeddfedodd cynhaeaf y ddaear. 16A’r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a’r ddaear a fedwyd. 17Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym. 18Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd â bloedd #14:18 fawr.uchel ar yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi. 19A’r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a’i bwriodd i #Pen 19:15gerwyn fawr digofaint Duw. 20A’r #Esa 63:3; Galar 1:15gerwyn a sathrwyd o’r tu allan i’r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn, hyd at ffrwynau’r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 14: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.