Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 13

13
A.D. 96. —
1 Bwystfil yn cyfodi allan o’r môr, a saith ben ganddo, a deg corn: i’r hwn y mae y ddraig yn rhoddi ei gallu. 11 Bwystfil arall yn dyfod i fyny allan o’r ddaear; 14 ac yn peri gwneuthur delw y bwystfil cyntaf; 15 ac yn peri i ddynion ei addoli ef, 16 a derbyn ei nod ef.
1Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a welais #Dan 7:2, 7fwystfil yn codi o’r môr, #Pen 12:3; 17:3, 9, 12a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau #13:1 enwau.enw cabledd. 2A’r bwystfil a welais i #Edrych Dan 7:4, 5, 6oedd debyg i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew: #Pen 12:9a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a’i gorseddfainc, ac awdurdod mawr. 3Ac mi a welais un o’i bennau ef megis wedi ei #13:3 friwo i farwolaeth.ladd yn farw; a’i friw marwol ef a iachawyd: #Pen 17:8a’r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil. 4A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i’r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, #Pen 18:18Pwy sydd debyg i’r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef? 5A rhoddwyd iddo ef #Dan 7:8, 11, 25; 11:36enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i #13:5 barhau, neu, ryfela.weithio #Pen 11:2; 12:6ddau fis a deugain. 6Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a’i dabernacl, a’r rhai sydd yn trigo yn y nef. 7A rhoddwyd iddo #Dan 7:21; Pen 11:7wneuthur rhyfel â’r saint, a’u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth #13:7 a thafod.ac iaith, a chenedl. 8A holl drigolion y ddaear a’i haddolant ef, #Exod 32:32; Phil 4:3; Pen 3:5; 20:12; 21:27y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd #Pen 17:8er dechreuad y byd. 9#Pen 2:7Od oes gan neb glust, gwrandawed. 10#Esa 33:1Os yw neb yn #13:10 casglu caethgludiad.tywys i gaethiwed, #13:10 y mae efe yn myned.efe a â i gaethiwed: #Gen 9:6; Mat 26:52os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. #Pen 14:12Dyma amynedd a ffydd y saint. 11Ac mi a welais fwystfil arall #Pen 11:7yn codi o’r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig. 12A holl allu’r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i’r ddaear ac i’r rhai sydd yn trigo ynddi addoli’r bwystfil cyntaf, #Ad. 3yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol. 13Ac #Deut 13:3; Mat 24:24; 2 Thess 2:9; Pen 16:14y mae efe yn gwneuthur #13:13 arwyddion.rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o’r nef i’r ddaear, yng ngolwg dynion; 14Ac #Pen 12:9; 19:20y mae efe yn twyllo’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy’r #13:14 yr arwyddion.rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i’r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw. 15A chaniatawyd iddo ef roddi #13:15 einioes.anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil hefyd, ac y parai gael o’r sawl nid addolent ddelw’r bwystfil, eu lladd. 16Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, #13:16 roddi.dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau: 17Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu #Pen 14:11enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw ef. 18#Pen 17:9Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried #Pen 15:2rifedi’r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a’i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 13: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.