Datguddiad 12
12
A.D. 96. —
1 Gwraig wedi ei gwisgo â’r haul y trafaelu ar ei thymp i esgor. 4 Y ddraig goch fawr yn sefyll o’i blaen hi i ddifa ei phlentyn hi. 6 Wedi iddi esgor, y mae hi yn cilio i’r diffeithwch. 7 Michael a’i angylion yn ymladd â’r ddraig ac yn myned yn drech na hi. 13 Y ddraig, wedi ei thaflu i’r ddaear, yn erlid y wraig.
1 # 12:1 Ac arwydd. A rhyfeddod mawr a welwyd yn y nef; gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren: 2A hi’n feichiog, a lefodd, gan fod mewn gwewyr, a gofid i esgor. 3A gwelwyd #12:3 arwydd.rhyfeddod arall yn y nef; ac wele ddraig goch fawr, a #Pen 13:1saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron. 4A’i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef, ac a’u bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno. 5A hi a esgorodd ar fab gwryw, #Salm 2:9; Pen 2:27; 19:15yr hwn oedd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn: a’i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw, ac at ei orseddfainc ef. 6#Ad. 14A’r wraig a ffodd i’r diffeithwch, lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno #Pen 11:3; Ad. 14fil a deucant a thri ugain o ddyddiau. 7A bu rhyfel yn y nef: #Dan 10:13, 21; 12:1; Jwdas 9Michael a’i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a’r ddraig a ryfelodd a’i hangylion hithau, 8Ac ni orfuant; a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef. 9A bwriwyd allan #Luc 10:18; Ioan 12:31y ddraig fawr, #Gen 3:1, 4; Pen 20:2yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo’r holl fyd: efe a fwriwyd allan i’r ddaear, a’i angylion a fwriwyd allan gydag ef. 10Ac mi a glywais lef #12:10 fawr.uchel yn dywedyd yn y nef, #Pen 11:15; 19:1Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i’r llawr, #Job 1:9; 2:5; Sech 3:1yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos. 11A #Rhuf 8:33, 34, 37; 16:20hwy a’i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau. 12Oherwydd hyn #Salm 96:11; Esa 49:13; Pen 18:20llawenhewch, y nefoedd, a’r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a’r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser. 13A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab. 14A rhoddwyd i’r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, #Ad. 6fel yr ehedai hi i’r diffeithwch, i’w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno #Dan 7:25; 12:7dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff. 15A’r sarff #Esa 59:19a fwriodd allan o’i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda’r afon. 16A’r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a’r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o’i safn. 17A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel #12:17 â gweddill ei had hi.â’r lleill o’i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd #1 Cor 2:1; 1 Ioan 5:10; Pen 1:2, 9; 6:9; 20:4â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.
Zur Zeit ausgewählt:
Datguddiad 12: BWM1955C
Markierung
Kopieren
Vergleichen
Teilen
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society