Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 11

11
A.D. 96. —
3 Y ddau dyst yn proffwydo. 6 Bod ganddynt awdurdod i gau y nef rhag iddi lawio: 7 yr ymladd y bwystfil yn eu herbyn, ac y lladd hwynt; 8 hwythau yn gorwedd heb eu claddu, 11 ac ar ôl tridiau a hanner yn atgyfodi. 14 Yr ail wae yn myned heibio. 15 Y seithfed utgorn yn canu.
1A rhoddwyd imi #Esec 40:3 &c; Sech 2:1gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi. 2Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, #11:2 Neu, gad allan.bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy #Pen 13:5ddeufis a deugain. 3Ac mi a roddaf #11:3 i’m dau dyst fel y proffwydont. allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant #Pen 12:6fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain. 4Y rhai hyn yw’r #Jer 11:16; Sech 4:3, 11, 14ddwy olewydden, a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear. 5Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef. 6#1 Bren 17:1; Iago 5:16, 17Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac #Exod 7:19awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. 7A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, #Pen 13:1, 11; 17:8y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod, #Dan 7:21; Sech 14:2a ryfela â hwynt, ac a’u gorchfyga hwynt, ac a’u lladd hwynt. 8A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd #Pen 17:1, 5; 18:10y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. 9A’r rhai o’r bobloedd, a’r llwythau, a’r #11:9 tafodau.ieithoedd, a’r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau. 10A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i’w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear. 11Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt. 12A hwy a glywsant lef #11:12 fawr.uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl; a’u gelynion a edrychasant arnynt. 13Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o #11:13 Gr. enwau gwŷr.wŷr: a’r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef. 14#Pen 8:13; 9:12; 15:1Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys. 15A’r #Pen 10:7seithfed angel a utganodd; a bu llefau #11:15 mawrion.uchel yn y nef, yn dywedyd, #Pen 12:10Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a’i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd. 16A’r #Pen 4:4; 5:8; 19:4pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 17Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, #Pen 1:4yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist. 18A’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, #11:18 Neu, ac amser y meirw i gael eu barnu.a’r amser i farnu’r meirw, ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi, ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i #11:18 lygru.ddifetha’r rhai sydd yn #11:18 llygru.difetha’r ddaear. 19Ac agorwyd #Pen 15:5, 8teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a #Pen 16:18bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a #Pen 16:21chenllysg mawr.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 11: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.