Logo der Bibel App
Suchsymbol

Datguddiad 10

10
A.D. 96. —
1 Angel cryf cadarn yn ymddangos, a llyfr agored yn ei law: 6 ac yn tyngu i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, na bydd amser mwy. 8 Gorchymyn i Ioan gymryd y llyfr, a’i fwyta.
1Ac mi a welais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, wedi ei wisgo â chwmwl: ac enfys oedd ar ei ben, #Mat 17:2a’i wyneb ydoedd fel yr haul, #Pen 1:15a’i draed fel colofnau o dân: 2Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd. Ac efe a osododd ei droed deau ar y môr, a’i aswy ar y tir; 3Ac a lefodd â llef #10:3 fawr.uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau. 4Ac wedi darfod i’r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr ysgrifennu: ac mi a glywais lef o’r nef yn dywedyd wrthyf, #Dan 8:26; 12:4, 9Selia’r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt. 5A’r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr, ac ar y tir, #Dan 12:7a gododd ei law i’r nef, 6Ac a dyngodd i’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi, a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi, a’r môr a’r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach: 7Ond #Pen 11:15yn nyddiau llef y seithfed angel, pan ddechreuo efe utganu, gorffennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe i’w wasanaethwyr y proffwydi. 8A’r #Ad. 4llef a glywais o’r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw’r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir. 9Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi’r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, #Esec 2:8; 3:1, 2, 3Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl. 10Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law’r angel, ac a’i bwyteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys: ac wedi imi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw. 11Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd, a chenhedloedd, #10:11 a thafodau.ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.

Zur Zeit ausgewählt:

Datguddiad 10: BWM1955C

Markierung

Kopieren

Vergleichen

Teilen

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.